top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/1: Esyllt Lewis & Iestyn Tyne

Dyma gynnyrch awr gyntaf 24:24, prosiect creadigol 24 awr Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma. Esyllt Lewis ac Iestyn Tyne oedd wrthi am yr awr gyntaf, yn ymateb yn greadigol i'w gwaith eu gilydd, gan gofio thema Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth eleni, sef GWELEDIGAETH.

(EL)

(IT)

(IT)


-----


Ma popeth yn lot

siapau serth

uwchlaw pydew gwyn dy fyd.

Cyn goddiweddyd y malu cachu ci, weles i’r basgedi siopa yn pydru fel papur lapio hyd palmant

a’r biniau tawdd ymhobman.

Odd e’n teimlo’n well nag odd e’n arogli.

Ac eto allai feddwl bod y melyn yna yn haul - ar bwys yr iâ.

Cyfaill melynwy

Triongl cheerios

Sosban fach yn berwi mêl yr oriau mân.

Ac ife’r bits o oren yw bits o darten ceirios artiffisial? Pluen fflat yn well na dim pluen o gwbl.

Does dim ongl rhwng y stryd a’r ffenest

dim ond creu a chreu a chreu a chreu tan bod dim byd ar ôl i greu. Dife?


(EL)


-----


Artist, golygydd a chyfieithydd yw Esyllt Lewis sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ei liwt ei hun ar brosiectau creadigol amrywiol. Mae'n olygydd cylchgrawn Y Stamp, cyhoeddiad celfyddydol annibynnol sy'n annog creadigrwydd o bob math ymysg y cyhoedd.


Llenor, cerddor ac artist o Ben Llŷn yw Iestyn Tyne. Enillodd Goron (2016) a Chadair (2019) Eisteddfod yr Urdd. Cyhoeddwyd ei drydydd casgliad o gerddi, Cywilydd, y llynedd. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.

117 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page