top of page

24:24/14 - Ruth Lloyd Owen

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Oct 2, 2020
  • 1 min read

Am 1 o'r gloch y bore bach, a ninnau dros hanner ffordd, Ruth Lloyd Owen fu'n ymateb i waith celf heulog Sioned Medi Evans, fel cyfrannydd nesaf 24:24. Gallwch ddysgu mwy am yr holl brosiect yma.

 



Drych

Yn ‘stafell dy ymennydd

mae’r cwpwrdd wedi ei gloi,

A’r geiriau sy’n deimladau’n

Sownd rhwng cloriau’r llyfrau brau.

Mae muriau caeth dy feddwl

Yn gwasgu’th egni gwan ,

A thithau yn flinedig yn mynnu holi

Pam?

Dwi’n erfyn arnat , …sbia

I fyw fy llygaid I ,

Gwel dy holl freuddwydion,

D’obeithion yn obennydd plu ;

Os nad wyt ti’n fy nabod ?

Dwi yn dy nabod di .


-----

Mae Ruth Lloyd Owen (@Ruthlloydowen3 ar Twitter) yn wraig, yn fam ac yn gerddor sy'n hoffi cadw'n brysur, a cheisio codi gwên.


Comments


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page