top of page

24:24/20 | Hollt y bore - Ffion Morgan

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • Oct 2, 2020
  • 1 min read

Cerdd gan Ffion Morgan yw ugeinfed cyfraniad Her 24:24 Y Stamp x Llenyddiaeth Cymru. Mae ei cherdd yn ymateb i 'Dau', cerdd a chyfres o ddelweddau gan Rhiannon M. Williams. Gallwch ddysgu mwy am 24:24 yma.

Cerdd sy’n cyfleu’r tristwch yr annhegwch ond hefyd yn ceisio cyfleu’r weledigaeth bod yna newid ar y gorwel …


Hollt y bore


Ein henglynion sy’n flêr

dros darth y bore,

a’r dweud sy’n miniog naddu

drwy gwsg y niwl.

Ac mi welwn

trwy dwll y clo …

awch y bore bach yn dyfod …

Yno, rhwng cyfarchion y gwenoliaid

a sisial taith y dail,

mae hen belydrau ddoe yn gwywo,

a phelydrau heddiw’n dihuno

gan adael i’r ing a’r angau,

frathu craciau’r stryd.

A dagrau hallt yr anhrefn

yn dal i wlychu’r boen.

Ond …

Yno am ennyd …

magma’r enaid sy’n ffrwydro’r

nodau byw am newid

a’n ffydd sy’n gludo i’r awel

gan grisialu a malu ein ffiniau

ac atalnodi’r hyn sy’n bod.

Hwn yw’r weledigaeth

sy’n dechrau hollti ddoe …

a

glynu

at

y bore bach …



-----

Bardd o Aberteifi sy'n mwynhau ysgrifennu cerddi rhydd yw Ffion Morgan.

Comments


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page