Dafydd Reeves yw pedwerydd artist 24:24, prosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru. Cafodd ei ysbrydoli i gydansoddi egin cân, ac yna i ymateb i ddelwedd Melissa Rodrigues o Cleopatra ar ffurf cerdd. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.
Gweledigaeth
(egin cân)
Yn ôl yn yr oes a fu
Mi oedd yna obaith i ni,
Oes lle roedd Awen yn llosgi yn daer
A rhamant oedd y gair.
Nawr yn yr oes a ddêl
Eto mi flaswn y mêl;
Wele mae chwildro ar orwel y ffin
A dechrau newydd i ddyn.
Gweledigaeth
(mewn ymateb i ddelwedd Melissa Rodrigues o Cleopatra)
Yn y gorffennol yr oedden ni’n gaeth
I ‘mond un weledigaeth.
Yng ngwlad yr hud a’r heiroglyphig
Oedd yn fud ym myd y mythig
Nes i graig Rosetta ildio’i
Chyfrinachau lu:
Yr oedd Ffaro-wraig go urddasol
Sydd yn haeddu sylw barddol:
Hi oedd yn ồl chwedloniaeth
Ynys Fadog yn Frenhines ddu.
Gad i belydr o weledigaeth
Lyfu’r ymennydd yn lan.
-----
Mae Dafydd Reeves (@daidafod ar instagram a twitter) yn ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth a thraethodau ac yn cyfansoddi ei ganeuon ei hun yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n byw ger Aberhonddu lle cafodd ei eni a'i fagu.
Comments