top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Cerdd: Gwagle - Lewis Owen

Updated: Aug 27, 2020

Rhybudd Cynnwys: Mae'r gerdd hon yn trafod anhwylderau bwyta.



'Ysgrifennais y gerdd hon fel adlewyrchiad o sut brofiad yw byw gydag anhwylder bwyta - dyma'r ffordd orau i mi gyfleu fy nheimladau amdano. Hoffwn allu rhannu fy mhrofiad gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth am y pwnc, a helpu'r rhai sydd hefyd yn dioddef weld nad ydynt ar ben ei hunain. Mae'r gerdd wedi ei seilio ar y mannau mwyaf tywyll a gwael o'r anhwylder. Dyma fy nghyfaddefiad cyhoeddus cyntaf am fy nhrafferthion personol ag anhwylder bwyta.' - Lewis Owen (@bendiGAYdfran)


Gwagle


Dyfnder gwag fy enaid sy’n llenwi

fy ngheg.

Blas cywilydd a chwerwder bywyd

ar fy nhafod.

Ac ysbryd maleisus sy’n sgrechian

yn fy llwnc.

Llithraf o gyfnod i gyfnod diamser,

hanner byw, hanner marw:

Ai myfi yw’r ysbryd maleisus?

Arteithiaf fy hun o’r tu fewn,

uffern sy’n tragwyddoli yn fy mhen.

Annigonol yw’r anobaith,

a newyn sy’n dwyn fy mywyd.

Teimlaf flys am rith-felysfyd.

Nofiaf trwy burdan fy hunan-gasineb,

Gan losgi ar eiriau miniog

Fy ngheg ystrywgar;

Carcharor i fi fy hun.

Cythreuliaid yw fy unig gwmni,

A finnau’n gythraul hefyd:

Ffieidd-beth.

Boddaf yn araf yn y gwagle tywyll,

o hyd.



Mae gwefan Meddwl yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac adnoddau am iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg.

108 views0 comments

Comments


bottom of page