Ymlaen
“Many men say they have absolutely no idea how to approach women in a post #metoo world.”
- erthygl ar lein Kristen Tsetsi, 2018
Beth am fel pobl?
Eu hanrhydedd sy’n bwysicach na’n hurddas,
ein profiad yn israddol i’w safle.
Erydwyd ein hyder
gan eu hanghenion,
eu hangen am lais,
eu hangen am bŵer
a’u hangen am wrywdod.
O grafu hen friwiau neu godi ein llais
byddai eu colled yn fwy na’n hennill.
Cadwasom ein barn rhag tanseilio eu bri.
Cadwasom ein dioddefaint rhag eu dinoethi.
Cadwasom ein cyhuddiadau i osgoi eu cywilydd,
i osgoi eu cyhuddiad o’n celwydd.
Yn gaeth i’r gorffennol
a’r gorffennol yn gaeth,
yn atgof na allwn ei rannu:
Ail-fyw, ail-ymweld, ail-adrodd
sy’n gohirio unrhyw gynnydd
mewn trawma tawel sy’n gwadu’r trais
Ond daw nerth mewn niferoedd
A daw deialog o ddewrder;
Sylweddolwn ar y gallu sydd mewn llais
a llwyddiant eraill yn bwydo ein gobaith.
Mae eu hamser drosodd.
Ymlaen.
-----
Llun: 'Flowering cactus' gan Wouter de Bruijn, Creative Commons
댓글