Gyda phleser mawr, ac ychydig o dristwch, y rhannwn glawr rhifyn olaf Y Stamp â'n darllenwyr. Dyma'n 11fed rhifyn llawn, ac unwaith eto, mae'n llawn hyd yr ymylon o stwff melys, stampus, da.
Y ffotograffydd Carys Huws sy'n gyfrifol am y darn trawiadol ar ein clawr y tro hwn. Mae Carys yn ffotograffydd llawrydd, awdur a chyfarwyddwr a ddaw o Gaerdydd yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Merlin. Dyma'r tro cyntaf, fel mae'n digwydd, i ni arddangos ffotograff ar un o gloriau'r Stamp.
Byddwn yn rhannu mwy o fanylion am gyfrannwyr a dyddiad rhyddhau'r rhifyn yn ystod mis Ionawr.
Yn y cyfamser, byddwch ddiogel a byddwch stampus -
Grug, Esyllt a Iestyn
x
Comments