24 artist, 24 awr.
Mae Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru yn falch i'ch gwahodd i brofi digwyddiad creadigol digidol nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen.
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth eleni, bydd 24 artist o bob math yn ymateb i'r thema Gweledigaeth dros gyfnod o 24 awr, un artist i bob awr rhwng 12pm, 1 Hydref hyd at 12pm, 2 Hydref.
Bydd pob artist - yn sgwennwyr, darlunwyr, dawnswyr, dramodwyr a cherddorion, yn defnyddio'u hawr eu hunain i ymateb i waith yr awr flaenorol, fel rhyw fath o ras gyfnewid creadigol, dros gyfnod o ddiwrnod cyfan. Bydd cynnwys y nos a'r dydd i'w weld ar gyfryngau cymdeithasol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, ac mae croeso i chi, y gynulleidfa, gyfrannu wrth i'r clytwaith ddatblygu, drwy greu eich ymateb eich hun i Gweledigaeth.
Rydym yn hynod o gyffrous o fod yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect unigryw hwn, a chael y cyfle i gydweithio gyda chynifer o artistiaid cyffrous mewn arbrawf creadigol.
Dyma nhw'r pedwar ar hugain: Beth Celyn, Dylan Huw, Eädyth Crawford, Elan Elidyr, Elen Hughes, Esyllt Lewis, Ffion Morgan, Ffion Pritchard, Gareth Evans Jones, Gwenllian Spink, Gwenno Llwyd Till, Iestyn Tyne, Dafydd Reeves, John G. Rowlands, Lauren Connelly, Osian Meilir, Melissa Rodrigues, Rhiannon Williams, Rhys Aneurin, Ruth Lloyd Owen, Sara Louise Wheeler, Sioned Evans, Steffan Dafydd, Tess Wood a Yasmin Begum.
Welwn ni chi rhwng hanner dydd a hanner dydd x
Comments