Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi mai cyfrol unigol nesaf Cyhoeddiadau'r Stamp fydd Gwrando gan Morwen Brosschot. Dyma ail gasgliad y bardd o Ben Llŷn, yn dilyn hunan-gyhoeddi Pethau fel hyn yn gynharach eleni.
Mae Gwrando yn bamffled o gerddi dwfn, astud a diamser mewn llais sy'n treiddio trwy ddwndwr y byd cyflym a materol sydd ohoni i gyhoeddi'n dawel: 'dyma fi'. Dyma farddoniaeth sy'n arsylwi'n graff ar fyd natur a threigl tymhorau, ac yn dangos inni werth arafu a gwrando. Cyplysir y cyfan yn gelfydd â myfyrdodau gweledol trawiadol, yn seiliedig ar y cerddi, gan yr artist Kim Atkinson.
Bydd y casgliad yn cyrraedd o'r wasg fis Hydref, ac mae modd i chi ragarchebu eich copi chi yma.
Er mwyn rhoi rhagflas o'r cynnwys, dyma Morwen ei hun i ddarllen 'Gwrando', cerdd deitl y pamffled, sydd hefyd yn ymddangos yn Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020.
Comments