top of page

Ymateb i gelf: DAWNS Y PYSGOD - Lea Sautin // Hannah + Jasmine Cash

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Mar 20, 2021
  • 1 min read

Yn rhifyn olaf Cylchgrawn y Stamp, cafwyd dau ddarn gwreiddiol o waith celf, un yn ymateb i'r llall.

Gwahoddom Hannah + Jasmine Cash i ymateb i fideo 'Dawns y Pysgod' Lea Sautin, drwy ddawns. Rydym yn hynod gyffrous i ddangos y ddau fideo yn eu cyfanrwydd am y tro cyntaf. Mwynhewch a mwynhewch.


DAWNS Y PYSGOD, Lea Sautin: "Yn ystod y cyfnod clo dechreuais arbrofi gyda dulliau animeiddio am y tro cyntaf. Mae wedi teimlo fel cam naturiol ar ôl i mi fod yn arbrofi gyda phrint, ffotograffiaeth a modelau papur 3D ers graddio. Yn aml roeddwn yn defnyddio elfennau o hen chwedlau fel man cychwyn ar gyfer fy ngwaith print, ond ar gyfer yr animeiddio diweddar dwi wedi gadael i'r meddwl grwydro heb boeni gormod er wyn creu straeon syml a byr i'w rhannu ac eraill drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi bod yn bleser ac yn ddihangfa i animeiddio'r bydoedd bach doniol yma ar fwrdd y gegin."






 
 
 

Comments


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page