top of page

Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 1 Y STAMP

  • Miriam Elin Jones
  • Mar 10, 2017
  • 1 min read

Seiniwch rhyw fath o utgyrn a thaniwch gwpwl o party poppers… mae gennym GYHOEDDIAD!

Mae’n braf gennym fel golygyddion ddatgelu o’r diweddmanylion lansiad ein rhifyn print cyntaf, a fydd yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth ar y 23ain o Fawrth. Bydd y drysau’n agor am 7.30 ymlaen, gyda’r noson o ddarlleniadau, dathlu, dawnsio a cherddoriaeth yn dechrau am 8.

Ein gwesteion arbennig fydd…

EURIG SALISBURY

BETHANY CELYN

GARETH EVANS JONES

ac eraill!

Ynghyd â gwerthu copiau o’r rhifyn – a mynnwch gopi, dim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael wedi’u printio! – mi fyddwn hefyd yn cynnal RAFFL arbennig! (Nid yw’r un digwyddiad yn yr iaith Gymraeg yn gyflawn heb raffl, wedi’r cwbwl…)

Mae gennym dudalen ar gyfer y digwyddiad ar Facebook – ymunwch gyda’r hwyl!

23/3/17

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page