top of page
Y Stamp

Adolygiad: Macbeth - cyf. Gwyn Thomas

Theatr Genedlaethol Cymru

Chwefror 2017

Cast: Richard Lynch (Macbeth), Ffion Dafis (Arglwyddes Macbeth), Gareth John Bale, Sion Eifion, Owain Gwynn, Gwenllian Higginson, Phylip Harries, Aled Pugh, Martin Thomas, Tomos Wyn a Llion Williams

Adolygydd 1

Cyn mynd i drafod y cynhyrchiad mae’n rhaid i mi ddatgan fod cyfieithiad y diweddar Athro Gwyn Thomas yn un gwerth chweil, heb fod yn or-llenyddol ond yn dal y math hwnnw o urddas ieithyddol mae rhywun yn ddisgwyl o Shakespeare a Chymraeg Beibl go iawn. Fe ges i well dealltwriaeth o rai golygfeydd drwy’r cyfieithiad hwn na’r gwreiddiol.

Mae’n bosib mai camgymeriad mawr y Theatr Genedlaethol ydi nad ydyn nhw’n siŵr yn iawn sut mae gwneud cynhyrchiad ‘site-specific’. Nid cario’r llwyfan hefo chi ydi diben symud i leoliad arall ond yn hytrach meddwl am ffyrdd glyfrach, gwahanol o gyflwyno’r gwaith. Roedd o’n teimlo fel cyfle wedi’i golli, dwy neu dair stafell o gastell cyfan gawson ni weld a fyddai’r darllediad fawr gwaeth pebai wedi ei lwyfannu mewn cwt beics gan gymaint o ddefnydd a wnaethpwyd o’r lleoliad.

Roedd yr actio yn dda, mwynheais ddehongliad Richard Lynch a Ffion Dafis o’r prif gymeriadau er bod llefaru’r cast yn y mowld Shakesperaidd weithiau (syndod arhyfeddod, ond does yna’m rhaid bod felly) a bod hynny yn gratio yn erbyn arddull cyfieithiad Gwyn Thomas ar brydiau. Rhywun arall sydd yn haeddu canmoliaeth ydi Gwenllian Higgins fel Arglwyddes Macduff; roedd ei chyfnod hi ar y llwyfan gyda’r mwyaf cofiadwy drwy gydol y ddrama.

Fel cynhyrchiad traddodiadol o Macbeth roedd hwn yn un da a dwi’n gobeithio ei weld o eto mewn ail-ddarllediad. Er hynny roedd o’n draddodiadol iawn (hyd yn oed y pen ffug a achosodd i’r gynulleidfa yn fy sinema i chwerthin) ac roedd hi’n biti efallai bod cyfieithiad newydd ddim wedi cael ei weld fel cyfle i geisio dehongliad newydd hefyd.

Adolygydd 2

Dechreuodd y darllediad o “Macbeth” efo cyfweliad byr efo Arwel Gruffydd, y cyfarwyddwr, lle roedd o’n dweud yn dalog ddigon mor bwysig ydi hi i ni gael cyfieithiadau Cymraeg o’r clasuron. Ddwedodd o ddim pam yn union, ac mi hoffwn i yn fawr glywed be ydi’r eglurhad tros y ffasiwn ddatganiad mawreddog, a thros gael Theatr Genedlaethol Cymru yn buddsoddi cymaint o arian ac amser ar yr enwau Saesneg mawr, mewn gwlad lle mae pob un ohona ni yn medru y Saesneg ac yn medru mwynhau y gweithiau hyn yn eu ffurf gwreiddiol. Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.

Nid fod y cyfieithiad ddim yn un da. Oedd, roedd o’n ddigon taclus. Ond doedd o’n gwella dim ar y gwreiddiol, a doedd y cynhyrchiad yn ddim byd newydd – heblaw am y castell, cynhyrchiad traddodiadol oedd o, ac yn feichus dan bwysau’r traddodiad hwnnw. Os cyfieithu i’r Gymraeg, pam cynhyrchu copi carbon? Pam ddim arbrofi? Ail ddehongli?

Mae na ddisgwyliadau mawr o’r Theatr Gen. Mae’r budget a’r adnoddau yn gneud i ni ddisgwyl pethe mawr. A tydi taflu arian ar setiau drud a gimics fflashi (fel perfformio drama mewn castell) ddim yn ddigon i wneud cynhyrchiad yn wych. Digon Llugoer oedd yr ymateb yn y theatr oeddwn i ynddi i’r cynhyrchiad hwn. Mi roedd na amryw o seti gwag ychwanegol yn yr ail hanner. Chefais i ddim fy nghyffroi, na fy ysbrydoli. Roedd o’n dda, ac yn night awt braf am £5. Ond ai dyma’r gorau all y Gen ei gynnig?


47 views0 comments
bottom of page