Cyfarwyddwr: Branwen Davies
Actorion: Sion Eifion, Judith Humphreys, Mirain Fflur
Rhybudd: Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys ‘spoilers’!
Mae’n rhan o’r amserlen bob blwyddyn. Brysio o Lwyfan y Maes efo peint hanner llawn, cynnes yn fy llaw i ddechrau ciwio tu allan i Theatr y Maes. Oes, mae sawl cynhyrchiad yn denu cynulleidfaoedd amrywiol ar hyd yr wythnos ond yr un mae pawb am ei weld yw enillydd Y Fedal Ddrama flwyddyn flaenorol. Eleni, ro’n i wedi hen edrych ymlaen i weld Adar Papur gan Gareth Evans Jones, un o’r dramodwyr mwyaf cynnil a chrefftus sydd yn ’sgwennu ar hyn o bryd.
Mae’n bosib iawn mai’r atynfa fwyaf i drio am Y Fedal Ddrama yw’r potensial iddi gael ei llwyfannu. Dyna yw pwrpas ysgrifennu drama, i’w gweld yn fyw ar lwyfan. Gall sgriptio fod yn broses unig (os nad ydach chi’n cyd-sgwennu) ond mae’r broses o greu cyfanwaith a’i roi ar lwyfan yn waith tîm, a rydach chi’n rhan o gymuned arbennig y cynhyrchiad hwnnw.
Fel darn o glai bydd y gwaith gwreiddiol yn cael ei ymestyn, ei dorri a’i rowlio rhwng bys a bawd. Yna, mi fydd yn cael ei feirniadu, ei ganmol a’i dynnu’n griau gan aelodau o’r gynulleidfa sydd wedi bod yn yfed lagyr cynnes a jin drwy’r pnawn. . .
Fel rydym i gyd yn gwybod, doedd hyn ddim am ddigwydd yn Nhregaron eleni.
Diolch felly am y cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru Creu Ar-lein sy’n ymateb i argyfwng Covid-19 i greu gwaith dramatig gwreiddiol, a hynny mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.
Roedd Adar Papur yn rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen. Mae pob cwmni theatr bron wedi gorfod troi at Zoom i greu gwaith yn ystod y cyfnod yma. Perygl y cyfrwng yma yw’r demtasiwn i roi gormod o effeithiau a golygu nes gall fod yn agosach at gyfrwng ffilm. Drwy gyfarwyddyd ystyriol a thawel hyderus Branwen Davies, mae Adar Papur wedi llwyddo i gadw’r elfen theatraidd, ac mae’r ffaith bod rhan fwyaf o’r ddrama drwy gyfrwng monologau wedi helpu hyn.
Tri cymeriad sydd yma, Sara, Ruth ac Iwan. Mae’r tri ohonynt yn byw gyda’u poenau, gydag ambell un yn medru wynebu’r byd yn fwy na’r llall.
Mae Iwan wedi creu byd bach iddo’i hun yn ei ystafell wely, a’i fywyd o ydi bywyd pawb arall wrth iddo edrych ar y byd a’i bobl yn mynd heibio. Mae’n byw gyda’i drawma yn dilyn damwain erchyll ei bartner Stephen. A’r origami, neu’r adar papur yn amgylchynu ei wely. Mae Ruth (dawn i wybod yn hwyrach ei bod yn fam i Iwan) i’w gweld yr un mor unig, a’r awgrym cryf bod ei pherthynas â’i gŵr yn siwrwds.
Mae Sara annwyl, er ei thafod miniog ar brydiau yn chwa o awyr iach, ond fel y ddau arall mae hithau hefyd yn cuddio ei phoen ar ôl iddi hi golli ei phartner a wynebu gorfod bod yn fam sengl i’r babi sy’n tyfu yn ei bol.
Rhaid canu clodydd y tri actor, Sion Eifion, Judith Humphreys a Mirain Fflur am eu perfformiadau. Mae’n anodd cynnal monologau ar y gorau, heb sôn am wneud hynny drwy sgrin. Hawdd iawn fysa pwyso pause. Mynd i wneud paned neu ‘dod nôl ato fo fory’, ond roedden nhw yn eich tynnu i mewn i’w stori nhw.
Wrth i lwybrau’r tri cymeriad groesi maent yn gorfod wynebu eu hofnau a’u rhagfarnau. Mae’n amlwg bod Sara o gefndir dosbarth gweithiol a Ruth ac Iwan yn fwy dosbarth canol, a chaiff hyn ei amlygu yn y sgwrs danllyd rhwng Sara a Ruth yn y siop. Diwedd hynny yw Sara yn cael y sac. Ond mae’r dealltwriaeth hynny sydd rhwng pobl sy’n rhannu’r un profiad yn chwalu’r syniad o ‘ddosbarth’ yn llwyr. Weithiau mae’n rhaid sbio yn iawn ar bobl, ac yna mi welwch chi’r boen.
Mae Iwan wedi torri pob cysylltiad gyda’i deulu am na fedr ddelio gyda’i golled. Sara yw’r cyswllt. A thrwy berthynas Iwan a Ruth mae Sara yn cael dealltwriaeth ddyfnach o’i pherthynas hi a’i babi.
Mae’r themâu yn bwysig ac amserol a tydi’r dramodydd ddim ofn rhoi ei ddannedd ynddyn nhw. Mae’n mynd i’r afael â iechyd meddwl, hunanladdiad, therapi a dosbarth. Ond y thema sy’n amlygu ei hun fwyaf yw gobaith. I mi, mae’r ffaith bod Sara yn siarad mewn sesiwn therapi yn andros o bwerus, achos mae’n bwysig siarad. Mae gan ‘bawb eu shit’ wedi’r cwbl. Fel hyn mae chwalu cywilydd a stigma.
Mae’n ddrama obeithiol, a doniol! Ac mae’r hiwmor ynddi’n ryddhad. Mae’r dramodydd yn hynod o grefftus wrth blethu’r holl themâu dwys yma a’u pupro efo hiwmor.
Yn Hiroshima mae cofeb heddwch i gofio am y plant a gafodd eu lladd a’u heffeithio gan y bom atomig. Arno mae delw o Sadako Sasaki yn dal orizuru, neu aderyn origami. Yn Siapan mae’n symbol o iachau. Er nad oes diweddglo hapus a thaclus i Iwan, Ruth a Sara rydym yn mawr obeithio y bydd mwy o oleuni na thywyllwch yn eu bywydau. . . yn ara’ bach.
Gwyliwch Adar Papur ar wefan amam.cymru neu ar sianel YouTube y Theatr Genedlaethol
Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw. Gallwch ddod o hyd i restr o'n hadolygwyr llwyfan fan hyn: https://www.ystamp.cymru/adolygwyr
Comentários