top of page
Y Stamp

Adolygiad: Mags

Aeth un o'n adolygwyr triw draw i wylio Mags gan Gwmni Pluen ar ei thaith o gwmpas Cymru yn ddiweddar, darllenwch ymlaen i weld be oedd eu barn nhw am y ddrama aml-gyfrwng hon.

Llun: Kirsten McTernan

Ble ti’n dod?

Ti’n nabod…….?

Ie dwi’n nabod nhw hefyd.

Geiriau cyfarwydd?

Pobl. Mae miliynau ohonynt yn y byd, ac er cymaint yr ydym yn ei nabod, ydyn ni wir yn ein adnabod ein hunain? Dyma oedd wrth wraidd ddrama Mags gan Elgan Rhys yn Theatr y Sherman. Drama ddwyieithog gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn dawnsio ar y cyd er mwyn portreadu cymeriad Mags, wrth i ni brofi taith bywyd anodd ar brydiau gyda phenderfyniadau heriol. Clywn hanes llythyr Nathan i’r byd yn datgan fod pobl yn medru effeithio ar eraill drwy’r hyn rydym yn ei ddweud a’i wneud, felly byddwch ddewr.

Llun: Kirsten McTernan

Wedi i ni gwrdd â’r cymeriadau ar ddechrau’r ddrama, cawn gyfarfod â Mags, dadorchuddiwyd y tŷ oddi tan ddarn o blastig, tŷ Cymreig gyda’r mat Croeso. Cawn gwrdd â’r pentref i gyd, cymeriadau adnabyddus i lawer ohonom.

Mae Mags yn 8 mlwydd oed ac rydym ar ei hysgwydd wrth edrych i mewn I'w chartref lle gwelir ei mam gyda dyn arall o ganlyniad mae Mags,ac am yn anwybyddu’r sefyllfa ei mam, Teimla nad yw’n rhan o’r tŷ a’r cartref bellach. Un ffrind sydd ganddi yn y pentref sef Mrs George. Dyma’r unig le mae Mags yn rhannu cyfrinachau, straeon, poenau. Dyma’r unig le mae’n teimlo ei hun.

Llun: Kirsten McTernan

Mae bellach yn 16 mlwydd oed a dyma dechrau’r daith go iawn. Rheda’r ferch, i ffwrdd o’r pentref, o ble mae’n perthyn. Cyrhaedda’r ddinas fawr ddrwg, Llundain. Awn ar y daith yma trwy ddeialog staccato a symudiadau chwim a goleuo celfydd tu hwnt a oedd yn creu cysgodion cyson, a’i dyma gysgod bywyd cynt Mags efallai?

Darn trawiadol tu hwnt o’r ddrama oedd cyfnod o fwynhau Mags wrth iddi fynd allan i yfed a chymryd cyffuriau gyda goleuadau strôb yn fflachio, cerddoriaeth fyddarol yn ein symud i glwb nos.

Llun: Kirsten McTernan

Ni fyddai’r perfformiad yn gyflawn heb y gerddoriaeth a chanu hudolus Casi. Roedd geiriau dwyieithog y caneuon yn ein harwain ar y daith fentrus hon. Gwir brydferthwch y perfformiad i mi oedd y goleuo oren gyda’r lamp yng nghefn y llwyfan ar bwlb yn hongian o’r to. Gwelwn Mags yn cwympo mewn cariad, defnyddiwyd y darn o blastig fel blanced dros yr actorion ynghyd â’r golau oren cryf ac roedd cysgodion y ddau actor yn creu darlun swynol a phrydferth eithriadol. Wedi’r caru newidiwyd awyrgylch y darn yn llwyr wrth i fywyd Mags a’r cyfan yn dechrau datgymalu. Mae’n un ar bymtheg, yn feichiog ac mae ei chariad wedi’i gadael. Beth mae hi am wneud? Cefais fy nharo yn emosiynol gan berfformiad Seren Vickers ac Anna ap Robert wrth wylio golygfa’r enedigaeth a sylweddoli fod y baban newydd anedig yn mynd i ofal a’r effaith niwediol creä hyn i Mags. Perfformiad cignoeth, gonest gan Seren sydd yn gadael ni mewn i’w hemosiynau nes ein bod yn ein dagrau.

Llun: Kirsten McTernan

Wrth i’r perfformiad ddirwyn i ben gofynna Matteo Marfoglia i ni gau ein llygaid a meddwl lle roeddwn ni un ar bymtheg mlynedd yn ôl, ac wrth i mi feddwl am fy mywyd wyth mlwydd oed hapus yng ngorllewin Cymru i gyfeiliant llythyr Nathan, fe’m hatgoffwyd i edrych mewn i lygaid ofn a cheisio newid hyn i ddewrder ac hapusrwydd. Braint oedd profi stori Mags ac mae pawb yn haeddu ei gweld. Dyma ddarn a ddengys wir bŵer theatr ac ein gorfodi i gwestiynu pwy ydyn ni, a ble rydym yn perthyn?

Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw. Gallwch ddod o hyd i restr o'n hadolygwyr llwyfan fan hyn: https://www.ystamp.cymru/adolygwyr

82 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page