Dyma berfformiad ar-lein ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru â BBC Cymru Wales a BBC Arts. Braf iawn oedd medru gweld cynhyrchiad mor safonol ac unigryw ar gyfrifiadur o gysur yr ystafell ffrynt. Yn wir, roedd fformat y cynhyrchiad yma yn arbrofol ac yn wahanol iawn i’r math arferol o gynhyrchiad ar lwyfan gan mai cynhyrchiad symudol oedd o i raddau, gan ei fod yn seiliedig ar daith ar fws, ond mae’n sicr wedi llwyddo.
Mae’r ddrama yn dilyn taith yr awdur a’r bardd adnabyddus Karen Owen ar hyd strydoedd ei magwraeth ac ar fws o Benygroes i Fangor. Wrth fynd ar y daith gyda Karen ceir trafodaethau ar nifer o themâu cyfoes yn cynnwys hiliaeth, gwreiddiau, mewnfudo a diwylliant yn yr ardal leol. Ym Mhenygroes mae Maggie Ogunbanwo yn ymuno â Karen ar y bws a cheir sgwrs ddirdynnol rhwng y ddwy, gyda’r ddwy yn gwisgo masgiau. Ceir trafodaethau am effaith yr arwydd Swastika ar y teulu, hiliaeth, hunaniaeth a gwreiddiau. Braf hefyd oedd naturioldeb y drafodaeth a’r cyfeillgarwch oedd rhwng y ddwy. Heb os nac oni bai, roedd trafodaeth Karen a Maggie ar hiliaeth yn hynod o bwerus a ddiddorol ac rwyf yn argymell i bawb i’w wylio. Arwyddocaol oedd yr olygfa yn ystod trafodaeth Maggie ar weithredoedd hiliaeth wrth i’r camera ffocysu ar y botwm ‘Stop’ y bws – hynod o drawiadol.
O’r llun sy'n hysbysebu'r cynhyrchiad gwelir Karen a Maggie yn aros ger gorsaf bws, ac felly, yn naturiol meddyliais ar y cychwyn bod yr holl berfformiad yn seiliedig ar drafodaethau rhwng y ddwy. Sioc oedd hi felly pan gamodd Maggie allan o’r bws a finnau wedyn yn meddwl sut bydd y cynhyrchiad yn datblygu. Ond nid oedd angen poeni oherwydd cafwyd perfformiad ysgubol gan Karen am weddill y cynhyrchiad.
Wrth i’r bws symud ymlaen cawn glywed Karen yn trafod cyfnodau ac atgofion o’i bywyd o’i ddyddiau ysgol i golli cyfoedion. Yn ystod y darn yma, teimlais gymysgedd o emosiynau o dristwch i chwerthin mawr. Yn ogystal ag hyn, wrth fynd o le i le, roedd Karen yn plethu cyfnodau ac atgofion o’i bywyd gyda hanes a newidiadau yn yr ardal leol gyda nifer ohonynt yn seiliedig ar fewnfudo ac effeithiau mewnfudo ar y cymunedau lleol. Un elfen wnaeth bryfocio’r meddwl yn fawr oedd y seibiau a throslais wrth fynd o le i le cawn yn llefaru enwau’r llefydd gan newid yr acen a Saesnegeiddio’r enwau. Nid yn unig y mae trafodaeth Karen o’i ardal leol a’r newidiadau sydd yn digwydd yno yn ddiddorol ond hefyd mae’n pryfocio’r meddwl. Mae hi hefyd yn ein gwneud yn anghyfforddus gyda’r sefyllfa ac yn gwneud i ni wir ystyried y newidiadau sydd yn digwydd yn ein hardaloedd lleol. Wrth allu cymharu newidiadau manwl mewn dau le gwahanol, sef bro Karen a bro fy hun yng Ngheredigion, rydych chi’n cael llun ehangach o’r newidiadau a’r effeithiau ac yn sylwi yn go gyflym bod angen gweithredu nawr cyn colli ein cymunedau Cymreig a’n diwylliant.
Yn amlwg mae gan Karen ddawn dweud ac mae hyn yn cael ei amlygu trwy’r cynhyrchiad. Roedd ei hymadroddion a’i llinellau bachog yn hynod o effeithiol ac yn taro’r hoelen ar ei phen, ac yn ein sbarduno i feddwl am ganlyniadau gweithgareddau a dyfodol ein hardaloedd lleol. Yn ogystal â hyn, ar hyd y ffordd mae Karen yn cwestiynu dadleuon a gweithredoedd cyfoes, e.e. wrth drafod am symud ffatri papur newydd o Benygroes, mae Karen yn gofyn, “Yn byw yn bell o ble?”. Hefyd wrth glywed y troslais mae Karen yn cwestiynu a’i dyma’r iaith bydd y mewnfudwyr yn ei defnyddio? Yn wir, mae’r cwestiynu yma yn peri i ninnau gwestiynu hefyd trwy gydol y cynhyrchiad. Wrth i Karen aros mewn safleoedd bws, ceir cerddoriaeth yn y cefndir ac mae’n llefaru ei cherddi am yr hyn mae hi wedi trafod. Mae hyn yn cadw cyffro’r cynhyrchiad ac yn ennyn diddordeb y gynulleidfa drwyddi draw.
Un elfen fawr i’w ganmol yw’r defnydd o isdeitlau pan mae Karen a Maggie yn tecstio ei gilydd gan mai anaml fel rheol mae rhywun yn gweld negeseuon o’r fath ar raglenni teledu. Mae’r cynhyrchiad yn gorffen ar uchafbwynt gyda Karen a Maggie yn cwrdd eto wrth i Karen camu allan o’r bws ym Mangor a’r ddwy yn mynd i ganol y ddinas. Yma mae’r ddwy yn tynnu eu masgiau i ffwrdd ac mae Maggie yn dechrau canu cân draddodiadol o Nigeria sydd yn cael ei gyfieithu i “Mae Mam yn aur”. Rhwng ei phenillion roedd Karen yn llefaru ei cherdd fawl i Maggie. Roedd y ffordd roedd y ddwy yn cyfuno eu hieithoedd a’u traddodiadau gyda’i gilydd yn drawiadol.
Yn ogystal â hyn, allai ddim gadael y darn yma heb sôn am y mwynhad oedd y ddwy yn gael wrth berfformio ac roedd eu perfformiadau yn gwbl naturiol gyda’r ddwy yn canu ac yn llefaru o’r galon. Yn dilyn hyn, trodd y ddwy i gefnu’r camera gan ddawnsio tuag at gloc y ddinas. Wrth iddynt ddawnsio, ymunodd pobl ddu â Maggie a phobl wyn â Karen, ond roedd y ddwy dras mewn dau grŵp gwahanol. Dwi ddim yn deall y syniad tu ôl i hyn o gwbl, gan y byddai’r olygfa wedi bod yn llawer mwy effeithiol petai’r ddau grŵp yn ymuno gyda’i gilydd gan ddangos nad oes angen ffiniau a hefyd i ddangos undod. Er hyn, mae’r holl berfformiad yma wir werth ei wylio. Dyma ddrama wreiddiol, hynod o ddiddorol ac addysgiadol a drama sydd yn aros yn y cof yn hir iawn, ar yr amod fel byddai Karen yn dweud, ein bod yn ei “chofio yn iawn”!
Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw. Gallwch ddod o hyd i restr o'n hadolygwyr llwyfan fan hyn: https://www.ystamp.cymru/adolygwyr
Comments