top of page
Esyllt Lewis

Adolygiad: Er Cofid 19

Aeth ein hadolygydd draw at glydwch ei gliniadur ar nos Wener o Fehefin i wylio marathon theatraidd nad yw'r theatr Gymraeg wedi gweld ei thebyg o'r blaen.

Llun: Theatr Genedlaethol Cymru

Er Cof (Nannon Evans, Megan Cynllo Lewis, Meleri Morgan a Naomi Seren Nicholas) yn rhoi’r byd yn ei le, mewn perfformiad ar-lein wedi’i pitsio’n berffaith.

Mae Er Cofid 19 yn drysor i Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales. Dyma farathon chwe awr o berfformiad digidol gorfoleddus llawn gwreiddioldeb, wedi’i ddatblygu yn rhan o arlwy cynllun creu ar-lein gan ein theatrau cenedlaethol, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts.

Bwriad y cynllun yw rhoi amser a gofod — gofod meddyliol a digidol — i artistiaid fentro, a chreu perfformiadau theatrig sy’n gweddu neu gyda’r gallu i addasu o fyd traddodiadol theatr i fyd ddigidol, byd ‘da ni’n dibynnu arno (gellid dweud) i ddal gafael a chysylltu gyda’n gilydd yng nghyfnod llwm “y clo mawr” fel ddywedodd Eddie Ladd yn ei pherfformiad Fy Ynys Las a gomisiynwyd yn rhan o’r un cynllun.

Un o’r cyfarwyddiadau mae Er Cof yn ei osod i’w cynulleidfa o ddechrau eu hymgyrch hyrwyddo, yw “dewch ac ewch fel y mynnwch.” Fel rhywun sydd wedi stryffaglu gwylio ambell berfformiad theatr ar-lein sydd wedi ceisio efelychu traddodiadau theatr “go iawn” yn hytrach na chreu mewn ffurf newydd, gwreiddiol, mae’r cyfarwyddyd yma yn rhyddhau’r pwysau o’r cychwyn cyntaf, a’n gosod tryloywder ac ysgafnder i’r perfformiad.

Felly, dilyn y cyfarwyddiadau wnes i, a gwylio pwt o’r cychwyn yn yr ardd, ymuno tra’n cwcio swper tua hanner ffordd, a gwylio’r awr olaf gyda chwrw. Gallwn wedi gwylio pob munud. Mae’r pedair ffrind yn tywys gwylwyr drwy ‘sgwrs’ ar-lein, sy’n amlygu ei hun fel gêm fawr gyda rheolau llac, gyda chardiau â geiriau sy’n sbarduno sgyrsiau, cwestiynau a thasgau mawr a bach, heriol a diflas, teimladwy a doniol.

Mae Nannon, Megan, Meleri a Naomi yn rhoi perfformiadau heintus – yn symud rhwng eu hunain, fersiynau heightened o’u hunain, a phortreadau o archetypes fyddai’n gyfarwydd i bawb. Mae’r bedair yn hiraethu am fôr Aberystwyth, yn trafod cysur sydd i gael dan glo, dadlau dros fudiad ffermwyr ifanc, cwestiynu beth yw ynys orau Cymru, yn ceisio ail-greu sgrech o’r ffilm Psycho a’n cynnal seremoni priodas Mr a Mrs Ball, a lot mwy. Mae dirgymhelled y gwaith yn ymylu ar fod yn absẃrd, ond yn hynod afaelgar ac fel treulio amser gyda ffrindiau gorau, a’n neud i rywun hiraethu am eu ffrindiau gorau. Mae rhaid rhoi clod penodol i berfformiad grymus, gwyllt a di-baid Naomi, yn enwedig wrth i berthynas y pedair fynd yn fwy chwyrn erbyn y diwedd.

Ar y cyfan, mae’r cwmni wedi creu darn sy’n syml ei gysyniad, ond llawn gwreiddioldeb a phenodolrwydd. Mae’n gwneud i rhywun feddwl, beth sy’n wir, beth sydd ddim? Beth sydd wedi’i sgriptio, beth sydd ddim? Beth sy’n gem, beth sydd ddim? Ac wrth wneud hyn, maen gwneud i’r gwylwyr feddwl am eu hatgofion eu hunain, eu barn eu hunain ar sawl peth rydyn ni wedi ei wynebu, neu am wynebu yn ein dyfodol ansicr.

Elfen arall sy’n syml ond effeithiol yw’r dyluniad – gan ddechrau yn eu gwisgoedd sy’n matsio a’u miciau aur, gyda waliau y pedair llofft wedi’i gorchuddio â chardiau, a phrosecco, afalau, haribos a coke i gefnogi eu hegni yn ystod y chwe awr. Ynghyd â hyn, mae dyluniad y Zoom ei hun yn syml, yn dwyn i gof yr olygfa hynod eiconig y ffilm Mean Girls.

Mae’r cwmni’n egin-archwilio ASMR a distortion yn ystod y Zoom, ond tra bod yr ASMR yn ryw hanner-lwyddo, tydy’r distortion ddim cweit yn ennill ei le. Os am gyffwrdd ar hwn, gall fod wedi gwthio’r elfen yma’n bellach a’i gymryd i rhywle tywyllach neu fwy boncyrs. Ynghyd â’r syniad yma, dw i yn credu y bydda’r perfformiadau wedi medru eu gwthio yn bellach tuag at y diwedd, yn enwedig unwaith i’r prosecco dreiddio i mewn.

Cafodd Er Cofid 19 ei ffrydio’n fyw ar AMAM, cymuned aml-gyfrwng sy’n dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru (platfform amserol iawn) — a dyma berfformiad, sydd wir angen ei ddathlu, wrth i nifer ei wylio yn eu cartrefi yng nghyfnod llwm yn ein hanes. Diolch mawr i Er Cof, am lwyddo troi’r llwm i lawen am noswyl.

Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw. Gallwch ddod o hyd i restr o'n hadolygwyr llwyfan fan hyn: https://www.ystamp.cymru/adolygwyr


6 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page