top of page
Miriam Elin Jones

RHIFYN: Y STAMP 1


Gyfeillion, lansiwyd rhifyn print cyntaf Y STAMP ar y 23ain o Fawrth, 2017, mewn noson fywiog a hwyliog yn Nhafarn y Cŵps Aberystwyth. I'r rhai fethodd fynychu, dyma gyflwyno cyfle i lawrlwytho copi PDF o'r cylchgrawn i chi sydd heb gael gafael ar eich copi print.

Er ein bod wedi cyhoeddi'n wythnosol ar y we ers dechrau'r flwyddyn - ac yn gobeithio parhau i wneud - mae rhannu rhifyn print wedi bod yn uchelgais o'r cychwyn cyntaf, a dyma ni wedi gwneud.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys cerdd gan Menna Elfyn, ysgrif Morgan Owen, cyfweliad gyda'r gantores spoken word Siân Miriam, arbrawf lwyddiannus Gareth Evans Jones yn Y LABORDI, cyflwyniad i'r Spice Girl gwreiddiol, Gwerful Mechain, gan Gwen Saunders Jones a llawer, llawer mwy.

Dyma'ch chyfle chi i lawrlwytho (ac i'w brintio, a'i rannu, a'i fwynhau, gobeithio!) y rhifyn hwnnw.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol: Y STAMP_Rhifyn 1_Gwanwyn 2017

neu cysylltwch drwy e-bost golygyddion.ystamp@gmail.com i fynnu un o'r nifer cyfyngedig o rifynnau print.

20 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page