top of page
Miriam Elin Jones

Ysgrif: Pam Darllen y Clasuron? - Dewi Alter


Yn yr ysgrif rwy’n gobeithio’ch argyhoeddi y dylech ddarllen y clasuron, gan egluro dadl Italo Calvino o’i gyfrol Why read the Classics?

Tybed sut y byddech chi’n diffinio clasur? Mae’n debyg ei fod yn un o’r geiriau hynny mae pobl yn eu defnyddio, ond eto pan fod angen diffiniad rydym yn sylweddoli nad yw ar flaenau’n tafod. Ydych chi wedi darllen rhai o’r clasuron? Oeddech chi’n ymwybodol ei fod yn glasur cyn neu yn ystod ei ddarllen? Oes fath beth â chlasuron yn bodoli yng Nghymru ac yn y Gymraeg? Ceisiodd Saunders Lewis a Bobi Jones ymysg eraill ddiffinio’r ‘canon’ - oes perthynas rhwng ‘canon’ a’r ‘clasuron’? Ac yn olaf beth fyddech chi’n gosod yng nghasgliad y clasuron Cymreig?

Ond i ddechrau mae’n werth holi beth yw clasur. Nid wyf yn awgrymu y bodola un diffiniad absoliwt. Nid yw hynafiaeth o reidrwydd yn creu clasur, ond mae’n allweddol i glasur fedru goroesi ymosodiadau treigl amser. Mae’n allweddol i glasur gael ei edmygwyr, er nad oes rhaid i bawb ei hoffi. Yn ogystal â bod o safon fel cawn yn awgrym Geiriadur Prifysgol Cymru a ddywed clasur yw:

Gwaith o’r dosbarth blaenaf mewn llên neu mewn celfyddyd, gwaith coeth a gorffenedig; un o weithiau safonol llên Roeg neu Ladin; clasurol.

Ceir sawl math o glasur, enwir un math uchod: Clasuron Groeg a Lladin yr oes glasurol fel yr Iliad gan Homer. Ar yr un pryd ceid ‘cult classics’ a chlasuron modern; clasuron Ewropeaidd; clasuron lleol a mwy sy’n uno â’r meta-naratif: clasuraidd. Cofier nad yw’n hawdd dosbarthu gweithiau i gategorïau pendant, er mor ymddangosiadol hwylus ydynt fel dechreufannau. Nid oes rheidrwydd i glasur rhanbarthol fod yn rhan o’r uwch naratif – hynny yw gweithiau a gydnebydd fel clasuron yn benodol heb ddisgrifiad yn ychwaneg; er enghraifft disgrifir Winnie the Pooh fel clasur i blant ond ni roddir y gwaith hwnnw yn yr un blwch â’r Iliad - nid oes angen i glasur ddod o Ewrop chwaith. Yn sicr trwy gydol hanes mae’r clasuron wedi dangos esiampl i lenorion ei ddilyn.

Ond i droi yn awr at waith Calvino, llenor ydoedd o’r Eidal o dras Ciwbaidd a aned yn 1923 a fu farw yn 1985. Ysgrifennodd weithiau fel Our Ancestors, Invisible Cities ac If on a winter’s night a traveler. Mae ganddo’i edmygwyr mewn sawl gwlad fel ysgrifwr a llenor. Roedd arddull ei waith yn hynod avant-garde gan ddefnyddio dulliau swrealaidd a strwythuraidd. Roedd hefyd yn aelod o Oulipo cymdeithas o lenorian arbrofol yn Ffrainc yn y 60au gydag unigolion fel Queneau ymhlith y blaenaf ohonynt. Dyma ddyn a oedd nid yn unig yn dwlu ar ysgrifennu ond yn darllen gweithiau ac yn ymddiddan gyda awduron eraill – adnabyddus a llaw adnabyddus - o bob cwr o’r byd, nid o’r Eidal yn unig.

Cawn yn Why read the Classics? ddadl Calvino paham y dylem ddarllen y clasuron. Yn y casgliad o draethodau ar glasuron amrywiol, fe ry le arbennig – wrth gwrs – i glasuron Eidalaidd. Dywed mai dechreubwynt pob cariad at lenyddiaeth yw llenyddiaeth frodorol gan gymharu clasuron tramor â chlasuron Eidalaidd yn reddfol bron. Ar wahân i ddeg traethawd ar lenyddiaeth yr Eidal ceir naw ar glasuron Ffrengig, saith ar rai Eingl-Americanaidd, pedwar o’r Oes Glasurol, dau o Rwsia a dau ar glasuron Sbaeneg – un ohonynt o’r Arianin.

Wrth gwrs, mae lle i godi ambell feirniadaeth nid oes un clasur ar ei restr gan fenyw ac ymddengys y rhestr braidd yn Ewroganolog, neu Orllewinganolog. Y mae’n annhebygol y byddai heb ddod ar draws gwaith gan fenyw; llenorion fel Virginia Woolf; y chwiorydd Bronte; ac Ayn Rand. At fenywod llenyddol, dylanwadol fel Gertrude Stein yr anfonai Fitzgerald a Hemmingway eu gweithiau am feirniadaeth cyn eu cyhoeddi. Yn yr un modd rhestrai nifer o lenorion o Siapan fel Tanizaki, Kawabato a José María Arguedas o Beriw fel dylanwadau mawr arno, ond ni chawn draethawd yn trafod eu gweithiau. Ai enghraifft o sut y mae llenyddiaeth gan fenywod a thu hwnt i Ewrop a’r Gorllewin yn cael eu hanghofio gan y ‘Traddodiad Mawr’ swyddogol? Yntau ydy Calvino’n awgrymu’n graff y bodola islif arall o glasuron benywaidd a thu hwnt i Ewrop? Pwy a ŵyr.

Nid clasuron gan fenywod yw’r unig fath o glasuron sydd tu hwnt i’r llyfr, mae’n rhaid cofio hefyd mae detholiad o glasuron sydd yma, mae’n debygol na sonia am nifer o’i hoff glasuron.

Ni fydd pawb yn cytuno â’i ddewis wrth gwrs, dywed y rhestr gymaint am Calvino ag am y clasuron eu hunain. Gellid darllen y gyfrol fel ymgais gan Calvino i ddyrchafu ac amddiffyn safonau llenyddiaeth a sicrhau bod llenorion ifainc a darpar-lenorion yn ymwybodol o’u treftadaeth lenyddol ac yn darllen yr esiamplau gorau o lenyddiaeth. I raddau gofynna wrth lenorion cyfoes ‘sut ydych chi’n bwriadu cynhyrchu llenyddiaeth wych heb fod wedi darllen llenyddiaeth wych?’ Poenai am ansawdd llenyddiaeth – tra fod gwthio’r ffiniau a bod yn avant-garde yn bwysig gwnaeth hynny’n gyson - pwysleisia ni ddylid diystyru a difrïo clasuron. Yn ei lyfr Six Memos for the Next Millenium mynega Calvino ei ddymuniadau am lenyddiaeth y mileniwm nesaf, cynhwysa’r rhain bum rhinwedd hanfodol llenyddiaeth, yn ei dyb ef sef: ysgafnder; esgudrwydd; ansawdd; gwelededd a lluosedd. Yr oedd yn ddyn a boenai am ddyfodol llenyddiaeth yn ogystal â bod yn llenor pen ei gamp.

Amlinella Calvino ei ddadleuon dros ddarllen y clasuron yn y bennod gyntaf. Rhydd bedwar rheswm ar ddeg gan egluro beth yw hanfodion clasur, ac effaith y clasuron ar eu darllenwyr. Atynt hwy y trown yn awr.

Honna Calvino un nodwedd o glasur yw fod pobl yn eu hail-ddarllen. Nid llyfrau ydynt i’w darllen unwaith ac yna anghofio amdanynt, o bell ffordd! Honnir yn hytrach fod darllen y llyfrau hyn yn brofiad anhygoel, sy’n peri i ni ddychwelyd atynt dro ar ôl tro am brofiad gwefreiddiol.

Yn gysylltiedig, honna bod ail-ddarllen clasur yn gymaint o brofiad darganfyddedig ag oedd darllen y gwaith am y tro cyntaf. Mynegir y plot ag estheteg gywrain fel cefnlen, sy’n dangos fod sut y dywedir rhywbeth cyn bwysiced â’r neges ei hun. Yn wir dengys clasur wrth ei ail-ddarllen cymaint y collwn y tro cyntaf. Nid yw spoilers yn bodoli ym myd y clasuron. Honna - yn baradocsaidd braidd - ychwanega spoilers at anisgwylder y darllen.

Yn adeiladu ar hynny, nid yw’r hyn sydd gan y clasur ddweud wrth ei ddarllenwyr yn blino. Y mae gan glasur neges oesol, sy’n cynnig darlleniadau newydd o genhedlaeth i genhedlaeth a bod sawl neges ynddo. Mewn un ystyr felly gall sawl dehongliad o glasur gydfodoli heb wneud cam â’r gwaith gwreiddiol - er yn amlwg nid yw pob dehongliad yn gywir – yn ôl Calvino y lle gorau i gael dehongliad o’r clasur yw’r gwaith ei hun.

Nodwedd arall o glasur yn ôl Calvino yw’r diddordeb ysgolheigaidd sy’n troelli o’u cwmpas fel gwenyn â blodau. Yn yr un modd a na all haid o wenyn gymryd holl nectar o flodau, nid oes unrhyw astudiaeth sy’n gallu crisialu’n well yr hyn a geir ynddi nag y gall y clasur ei hunain. Oherwydd rhagora ar drafodaethau ysgolheigaidd mae’n gweithio cystal â neu hebddynt. Nid darllenwyr cyffredin yn unig sy’n mwynhau clasuron, yn hytrach mae ysgolheigion goleuedicaf y gymdeithas yn gwirioni arnynt.

Mae Calvino’n mynd ei flaen i ddweud yn y clasuron clywn adlais o hen olion o gymdeithas sydd naill ai wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn y gymdeithas gyfoes neu wedi hen fynd. Mae hyn yn wir am glasuron hynafiaethol a modern. Mae nifer o’r cymeriadau a’r motiffau wedi’u mynegi dros y canrifoedd mewn ffyrdd annisgwyl, ac yn ymddangos mewn llenyddiaeth eraill fel y paralelau rhwng Yr Odyssey gan Homer ac Ulysses gan James Joyce.

Mae pwyntiau 13 ac 14 o’i ddadl wedyn yn ddwy wedd i’r un geiniog fel petai. Dywed bod clasur yn cefnu ar synau’r presennol, ond ar yr un pryd ei bod yn amhosib iddo fyw hebddo. Yn naturiol mae’n ffrwyth ei oes ond ar yr un pryd cynigia ddihangfa ragddi. Ac i’r gwrthwyneb parha fel sŵn cefndirol er nad yw’r presennol bob tro’n gydnaws â’r hyn a geir rhwng y cloriau. Yn aml mae’n presennol yn anghydnaws â’r clasur. Bodola olion y clasuron ar ein cymdeithas heddiw y rhai hynnaf a diweddar. Boed ni’n ymwybodol neu beidio ohono, mae dylanwad y clasuron yn rhan o wead ac asgwrn cefn llenyddiaeth.

Hoffwn ychwanegu ei fod yn werth darllen y clasuron, gallent gynnig dihangfa rhag nifer o drybestodau’r presennol a chyfoethogi’n cynhyrch cyfoes. Er y credwn bod ein dyddiau’n hynod wahanol i’r rhai a fu, wrth ddarllen clasuron modern a hŷn sylweddolwn mai’r un yw’r problemau sydd wedi gwynebu’r ddynoliaeth drwy’r canrifoedd.

Bydded i ni fanteisio ar berlau llenyddiaeth sydd wedi eu cyfieithu o’r ieithoedd brodorol i’r Saesneg ac ymgynefino â diwylliannau dieithr. Os nad ydych yn gallu darllen Homer, Balzac, Maupassant a’r lleill yn y gwreiddiol, yna darllennwch gyfieithiadau. Yn ddiamau byddai darllen y gweithiau yn y gwreiddiol yn brofiad llawer cyfoethocach. Ond cynigia’r Saesneg fel iaith fwyafrifol gyfle anghymharol i ddarllen gweithiau o bob gwlad ac oes i bawb a’i meidr. Wedyn pwy â ŵyr y cyfieithir rhai o’r gweithiau hynny i’r Gymraeg. Cyfieithodd John Morris-Jones er enghraifft gerddi Heinrich Heine, ac Omar Khayyám i’r Gymraeg. Tybed os oes cyfieithwyr yn ein mysg?

Darllenwch y clasuron!

Dewi Alter

22 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page