Adolygiad: Y Tŵr - Guto Puw
- Y Stamp
- Jul 7, 2017
- 1 min read
Libretto - Gwyneth Glyn
Seiliedig ar ddrama Gwenlyn Parry
Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru
Mai - Mehefin 2017
Cast:
Caryl Hughes (Benyw)
Gwion Thomas (Gwryw)
Doeddwn i erioed wedi gwylio opera ar ei hyd o’r blaen, felly, gyda chwilfrydedd a mymryn o chwithdod yr es i ganolfan Pontio i wylio Y Tŵr, cyd-gynhyrchiad rhwng Music Theatre Wales a’r Theatr Genedlaethol, ac addasiad o un o ddramâu enwocaf Gwenlyn Parry.
Andros o fenter oedd ceisio trosi gwaith Gwenlyn i fyd yr opera ond llwyddodd Gwyneth Glyn, y libretydd, yn arbennig o dda yn hyn o beth, ac ategwyd at hynny gan y gerddoriaeth drawiadol, siambr ei harddull, a gyfansoddwyd gan Guto Puw.
Roedd y set a gynlluniwyd gan Michael McCarthy hefyd yn ddiddorol, ond yn wahanol i’r ddrama, nid dringo grisiau oedd cymeriadau’r opera, ond ysgol. Profodd hynny’n effeithiol iawn, yn enwedig wrth iddi ymrannu tua diwedd yr act olaf.
Portread gwirioneddol arbennig o’r Fenyw a gafwyd gan Caryl Hughes. Roedd perfformiad Gwion Thomas yntau’n dda iawn, yn enwedig yn ystod yr act olaf, ond efallai na chafodd gystal hwyl yn actio’r Gwryw ifanc.
Roedd y gynulleidfa yn amlwg wedi mwynhau, gan i’r mwyafrif godi ar eu traed ar y diwedd i gymeradwyo. Roeddwn innau wedi mwynhau, ond dwi dal heb wirioni ar opera fel ffurf. Ond gobeithio’n wir y bydd llwyddiant Y Tŵr yn arwain at greu rhagor o operâu Cymraeg.



Comments