top of page
Grug Muse

Ysgrif : Cofio - Sara Borda Green


Mae blas godidog ar y brechdanau hyn, os caf ddefnyddio’r ansoddair. Ar ben hynny, mae’r pecyn yn hysbysebu bod y caws yn dod o wartheg a gafodd eu trin yn dda. Chwarae teg iddynt. Ond y rheswm pennaf i mi ddewis hedfan gyda chwmni o’r Iseldiroedd yw eu bod nhw’n dod i Gaerdydd. Mae’n well gen i osgoi mynd trwy’r broses o esbonio i swyddog heddlu ar y ffin yn Heathrow:

—Ydw, dw i’n dod o’r Ariannin ac ydw, dw i’n siarad Cymraeg.

—Oes, mae ‘na Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

—Mining area??? Na, ni aethant draw i weithio mewn pyllau glo (tybed a gollodd y wers ‘Gormes crefyddol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif’, neu fodiwl cyfan ‘Imperialaeth Brydeinig’).

A dyma fi nawr, ar fin cyrraedd Cymru unwaith eto, ond ei phrifddinas y tro hwn. Roeddwn i’n disgwyl ymlacio yn ystod y rhan olaf o’r daith, ond mae’r babi sy’n crio y tu ôl i’m sedd wedi penderfynu drostof ei fod am fy nghadw’n effro. Dyna’r rheswm pam fy mod wedi dewis agor y laptop ac ysgrifennu post newydd yn y blog. Mae hanner awr eto cyn glanio.

—Dych chi wedi rhoi’r gorau i drio cysgu? — medd llais chwilfrydig sy’n dod o’m hochr chwith. Rwy’n troi i weld o ble daw’r sylw. Menyw tua saithdeg oed sydd yno, un daclus a bywiog. Hoffaf ei phersawr, mae’n aeddfed ac yn ffres ar yr un pryd. Ac mae rhywbeth direidus yn ei gwên.

—Ydw.

—Dw i’n cymryd eich bod chi’n dod o Batagonia.

—Ydw! Mae’r acen yn amlwg, yndydy? —dw i’n cyfaddef, ac ar y pwynt yma, mae sgwrsio gyda hi’n opsiwn gwell nag ymladd â thudalen wen y sgrin. —Dych chi wedi bod draw?

—Ydw, unwaith. Am gyfnod byr, o’n i’n teithio o gwmpas yr Ariannin gyda chriw… Buenos Aires, Iguazú, Bariloche… roedd yn anhygoel.

—Ydy, mae’r Ariannin yn ffantastig. Pryd oedd hyn felly?

—1990? Neu 1991? Dw i ddim yn cofio’n iawn.

—Diddorol, cyn y Prosiect felly.

—Pa Brosiect?

—Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia, mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Cymdeithas Cymru-Ariannin…

—O wrth gwrs, mae’n ddrwg gen i, weithiau dw i’n colli cysylltiad gyda’r newyddion. Dw i wedi bod yn teithio’n aml yn ddiweddar, ‘chi’n gweld.

—Dych chi wedi ymddeol?

—Ydw, ond hefyd oherwydd symudodd fy mab i’r Iseldiroedd, a’m merch i Seland Newydd. Dw i’n treulio rhan fwya’r flwyddyn i ffwrdd!

—Wel, cyffrous yn wir!

—O ydy, ond fel mae nhw’n dweud, ‘does unman…

—… yn debyg i gartre’. Ydy, mae’n wir —ac ni allaf osgoi edrych drwy’r ffenestr.

—Non, neis cwrdd â chi —mae hi’n cyflwyno ei hun. Mae’n dod â mi o’r cymylau yn ôl i’r awyren.

—A chithau. Victoria dw i —rwy’n ateb, wrth estyn fy llaw. Dydy hyn ddim yn dod mor naturiol imi â chusan, yr arfer yn yr Ariannin, ond rwy’n dal yn gwneud yr ymdrech. Mae’n well na’r sefyllfa anghyfforddus lle dw innau’n symud ymlaen a’r llall yn estyn llaw.

—Pam dych chi yng Nghymru, os ga i ofyn?

—Dod i weld ffrindiau dw i. Ac i gael dianc o’r gaeaf am rai wythnosau, ond peidiwch â dweud wrthynt —mae’r jôc yn un hen, ond mae Non yn chwerthin beth bynnag. — Beth o’ch chi’n gwneud cyn ymddeol? — mentraf i ofyn.

—O’n i’n athrawes ysgol gynradd. Gwelais raglen Huw Edwards gwpwl o flynyddoedd yn ôl…

—Adeg y Canmlwyddiant a Hanner.

—Ie, roedden nhw’n sôn am ysgolion dwyieithog yn y Wladfa.

—Oes, mae ‘na dair ar hyn o bryd.

—Mae hynny’n swnio’n llwyddiannus. A faint o bobl sy’n siarad Cymraeg draw? — mae’r hen gwestiwn yn fy synnu yn awr, doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl ganddi, i fod yn onest. Ond eto, efallai byddwn i’n ei ofyn hefyd yn ei lle.

—Mae’n anodd ateb, ‘chi’n gw’bod. Sut dych chi’n diffinio siarad Cymraeg? Bore da, sut dych chi, diolch yn fawr, ac yn y blaen? Neu’r gallu i gyfathrebu’n rhwydd? Neu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhugl?

—Wrth gwrs, dw i’n deall —ac yn awr hi yw’r un sy’n ymgolli yn y gorwel trwy’r ffenest. Dw i ddim yn dod â hi nôl, mae hi wedi gwneud i mi feddwl unwaith eto pam, pam dw i’n siarad Cymraeg, pam dw i’n dewis mynychu dosbarthiadau Cymraeg bob wythnos yn lle dysgu… Portiwgaleg er enghraifft, i fynd i draethau Brasil i ymlacio gyda nofel ysgafn a piña coladagogoneddus. Dw i’n cofio darllen yn ddiweddar farn R. Bryn Williams ar ddyfodol yr iaith yn y Wladfa adeg y Canmlwyddiant. Roedd y sefyllfa’n edrych yn anobeithiol ar y cyfan, y tu hwnt i’r ychydig deuluoedd a oedd yn benderfynol o gynnal yr iaith. Fel pe bai hi’n darllen fy meddwl, ac eisiau fy nghadw ar y trywydd iawn, mae Non yn gofyn mwy o gwestiynau am y Priosect.

—Pryd dechreuodd y Prosiect felly?

—Yn 1997.

—Ugain mlynedd i eleni!

—Yn union. Cyn hynny fe fu ‘na athrawon gwirfoddol yn y Dyffryn ac yn yr Andes, ond ers 1997 mae athrawon o Gymru wedi bod yn mynd bob blwyddyn. A hynny i gyd ar sail gwaith ymchwil yr Athro Robert Owen Jones yn y saithdegau.

—Ac ers pryd dych chi’n cael gwersi?

—Dechreuais i gydag un o’r athrawon gwirfoddol.

—Jiw jiw, ’chi’n gwybod sut i ddal ati! —medd Non mewn ffordd mor ddoniol na allaf wneud dim byd ond chwerthin yn uchel. Mae hen ddyn sych sy’n eistedd wrth y ffenest yn edrych arnom gyda golwg llym. Mae Non yn gwneud ystum o flinder sy’n gwneud imi fod eisiau chwerthin mwy hyd yn oed. Ryn ni’n tawelu am funud, ac mae’n edrych fel pe bai’r sgwrs wedi gorffen.

—Ydy’r rhifau’n bwysig? Oes pwynt mewn trio mesur ffenomen ddiwylliannol? — ergydia.

—Wel, mae’n bwysig mewn ffordd —rwy’n ateb yn ofalus, heb fod gant y cant yn siwr—, mae’n bolisi cyhoeddus, ‘chi’n gweld. Cynllun yw hwn, sydd angen cymharu ei fuddsoddiadau â’i ganlyniadau.

—Ie, dych chi’n iawn —. A dyna sut rwy’n colli Non yn ei myfyrdodau unwaith eto. Mae hynny’n rhoi cyfle i fi edrych arni’n fwy manwl. Mae’i chrychau yn llawn gwybodaeth a rhesymoldeb mewn ffordd annisgwyl, heriol. Hoffwn ei gwahodd i ddod i’r Wladfa eto, ond cyn i mi allu dweud dim byd clywaf ei llais bregus ond cadarn:

—Mae’r ysgolion dwyieithog yn edrych fel canlyniad llwyddiannus.

—Wel ydyn, wrth gwrs.

—Ond eto —mae hi’n edrych i fyw fy llygaid—, mae dysgu iaith yn dra gwahanol i addysg, yndydy? —a’r pwyslais yn ei llais yn dod gyda winc.

—Beth dych chi’n meddwl? —dw i’n ddryslyd.

—Sawl awr dych chi’n treulio yn y dosbarthiadau Cymraeg bob wythnos?

—Dwy awr, tair awr… mae’n dibynnu.

—A faint o amser mae plentyn pump oed yn treulio yn yr ysgol feithrin, tybed? — mae hi’n dal yn wên i gyd. Mae ganddi bwynt, ac mae hi’n gwybod hynny. —Dych chi’n gwybod pa mor bwysig yw’r blynyddoedd cyntaf ym mywyd unigolyn, dyna pryd mae ei ben a’i galon yn cael eu llunio. Ac mae hynny’n effeithio ar ei holl fywyd wedyn. Bues i’n dysgu am dri deg mlynedd mewn gwahanol ysgolion cynradd, ‘chi’n gwybod. Alla i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw cynllunio’r dosbarthiadau, hyfforddi staff, cynnig awyrgylch llawn llawn chwilfrydedd am y byd—. Dw i ddim yn gallu ei stopio hi, mae fel pe bai rhywun wedi agor crac yn y graig a rhaeadr yn llifo’n anorchfygol o sedd 17C, wrth fy ochr. —Mae fy merch yn athrawes hefyd, felly dyn ni’n siarad am y byd addysg yn aml, sut mae pethau wedi newydd cymaint dros y blynyddoedd. Dangosodd hi fideo ar YouTube o Ken Robinson, a’i neges sylfaenol oedd bod ysgolion arferol yn lladd creadigrwydd. Roedd hynny’n f’atgoffa hefyd o waith hanfodol María Montessori.

—Dw i’n cytuno cant y cant. Ces i’r fraint o gael profiad addysgol gwych yn yr Ariannin, ‘ysgolion arbrofol’ mae nhw’n cael eu galw.

—Mmm diddorol… ‘Newch chi fod yn ddigon caredig i ysgrifennu hynny lawr yn y llyfr nodiadau bach yma? Hoffwn i edrych ar y profiad hwnnw —, ac wrth i mi blygu i gael beiro o fy mag, dw i’n teimlo bod yr awyren yn dechrau mynd i lawr yn araf.

—Mae sawl profiad addysg diddorol yn yr Ariannin, ‘chi’n gwbod. Mae wastad yn werth edrych ar beth sydd wedi bod yn llwyddiannus i bobl eraill.

—Llwyddiant. Beth yw llwyddiant? —mae Non yn gofyn, fel pe bai hi’n meddwl yn uchel, yn hytrach nag yn disgwyl ateb gen i. Nid wyf yn teimlo y gallaf roi ateb da iawn iddi chwaith.—Mae’n well gen i’r cysyniad o fuddugoliaeth —ychwanega— achos mae llwyddiant yn gwneud i mi feddwl am y byd masnachol, am gwmnïau a gwleidyddion gwag ac… elw.

—Ond mae buddugoliaeth yn gysyniad milwrol, o drechu gelyn! Dw i ddim yn gyfaill i’r trosiadau rhyfelgar, gyda’r byd fel y mae.

— Ydy —mae’n ateb, a’i hwyneb i gyd yn ffrwydro— ond dyna wyrth y Gymraeg, chi’n gweld. Glywoch chi gerdd gan Waldo sy’n sôn am ‘gofio am y pethau anghofiedig ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt’?

—Mae poster ar y wal yn yr Ysgol Gymraeg.

—Ocê, wel, mae pennill yn y canol yn canu: ‘A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig/ Hoyw yng ngenau dynion oeddynt hwy/ A thlws i’r clust ym mharabl plant bychaìn…

—Ond tafod neb ni eilw arnynt mwy —rwyn llefaru’r llinell olaf gyda hi, ac yn trio cysylltu’r gerdd â phopeth ryn ni wedi bod yn trafod. Mae Non yn sylweddoli fy mod ar goll, ac yn egluro mewn llais dwfn, doeth:

—Ebargofiant —‘Beth?!’ rwy’n meddwl, ‘collais y wers ar eirfa farddonol, mae’n debyg’. Ond parha yn yr un tôn, heb sylwi ar fy nryswch: —Mae’n amhosib i mi ddweud os yw’r Prosiect ym Mhatagonia wedi bod yn llwyddiannus ar ôl ugain mlynedd. Ond dych chi’n fuddugol, Victoria. Hyd yn hyn, o leiaf. Dych chi ddim wedi anghofio.

Mae geiriau Non yn socian i mewn i fy nghlustiau. Beth fyddwn i’n ateb? Yn ffodus mae llais y peilot yn torri ar draws y sgwrs. Mae’n ein hatgoffa ein bod ar fin glanio.

29 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page