Theatr Genedlaethol Cymru, Hydref 2017
CAST:
Siw Hughes, Gwyn Vaughan Jones, Dafydd Emyr, Sion Pritchard, Iwan Charles, Steffan Harri, Lowri Gwynne
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton
Clywyd y mân siarad a synhwyrwyd y bwrlwm yn syth wedi i ddrysau’r theatr agor ar ddiwedd y perfformiad. Roedd y ddrama wedi gwneud yn union yr hyn yr oedd disgwyl iddi wneud; procio meddyliau a phigo cydwybod. Dyma ddrama yn cyflwyno sawl ongl bosib ar destun cyfoes sy’n berthnasol i bawb, yn enwedig i bobl Môn a’r cyffiniau. A ddylai’r Wylfa newydd gael ei hagor neu beidio? Dyna yw’r cwestiwn mawr.
Llanwyd y llwyfan gan lu o actorion profiadol ac roedd eu crefft yn amlwg wrth iddynt bortreadu cymeriadau o gig a gwaed yn fanwl iawn. Llwyddwyd i newid safbwyntiau’n gyson ac ymateb i’w gilydd yn hynod o slic ac yn broffesiynol. Clywyd canmoliaeth gan y rhai oedd yn adnabod y cymeriadau go iawn am y ffordd yr oeddent wedi llwyddo i’w portreadu mewn modd mor realistig.
Dyma ddrama unigryw wedi ei hysgrifennu’n gelfydd gan y dramodydd Manon Wyn Williams. Mae’n seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda rhai o drigolion Môn oedd yn cofio’r effaith a gafodd y Wylfa wreiddiol ar y gymdeithas pan agorodd yn 1971, yn ogystal â’r rhai sydd bellach yn ymgyrchu o blaid ac yn erbyn y Wylfa newydd. Llwyddodd y dramodydd i blethu’r gwahanol safbwyntiau a thynnu meddyliau’r gynulleidfa o un ochr i’r llall. Mae teitl y ddrama hon yn gweddu i’w chynnwys i’r dim - dyma ddrama sydd wedi ‘hollti’ meddyliau amryw o bobl.