top of page

RHIFYN: Y STAMP #4 - Gwanwyn 2018

  • Y Stamp
  • Apr 21, 2018
  • 1 min read

Dyma chi'r linc i lawrlwytho Rhifyn 4 ... defnyddiwch o'n ddoeth!

Â'r rhifyn diweddara allan mewn print ers rhyw dair wythnos bellach, teimlwyd ei bod hi'n hen bryd iddo fod ar gael i'r seiber-fyd hefyd.

Cafwyd noson arbennig i lansio'r rhifyn yn y Fic, Llithfaen yng nghwmni yr hyfryd Tagaradr a swynodd y gynulleidfa, Cwmni'r Tebot a oedd â'r ddawn i'n sobri a'n cael yn ein dyblau'n chwerthin o fewn eiliadau i'w gilydd, a'r beirdd - Myrddin ap Dafydd, a Beth Celyn a Siân Miriam o Gywion Cranogwen.

A sôn am Gywion Cranogwen - y Cywion oedd yn gyfrifol am fewnosodiad y rhifyn diweddara. A dyma ni rŵan yn rhoi'r mewnosodiad hwnnw i chi i'w lawrlwytho a'i fwynhau :

Mae'r rhifyn ar-lein y tro hwn mewn lliw, ac yn fwy rhyngweithiol hefyd. Mae'n cynnwys gwaith newydd sbon gan Bethan Scorey, Ceri Rhys Matthews, Morwen Brosschot, Sam Jones, Llio Maddocks, Gareth Evans Jones, Becca Voelcker, Mihangel Morgan a llawer, llawer, llawer iawn mwy!

Os ydych chi am gael rhifyn print drwy'r post - gallwch eu harchebu yn ein siop ar-lein.

aaaaa ... dyma lun o bedwar golygydd post-lansiad hapus i orffen!


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page