top of page
Y Stamp

Ysgrif: Lleddfu Diflastod - Non Mererid Jones


Bythefnos yn ôl, fe dorrais fy ffêr. ‘Be ‘nes di?’ fe’ch clywaf yn gofyn. ‘Damwain wrth syrffio,’ me’ finnau. Na, nid cael fy llarpio gan don na chael fy mrathu gan siarc – dim byd cŵl – dim ond camu’n flêr oddi ar y surfboard a ‘snap’. Rhegais nerth fy mhen gan obeithio y byddai’r gwynt yn cario’r ‘ffyc sêcs’ dros y dwnan ac yn rhoi gwybod i rywun yn rhywle bod rhywbeth o’i le. Gorweddais fel morlo ar y lan i gael fy ngwynt ond ar ôl pum munud roeddwn i’n dechrau rhynnu.

Fel Branwen a’i drudwy, ceisiais ddofi gwylan a ddaeth i fusnesu. Wedi drysu mewn poen, fe’i dwrdiais gan ddweud wrthi nad oeddwn i wedi marw ac nad oedd hi i bigo fy llygaid ond iddi fynd i’m bag, fel y byddai ei ffrindiau hi’n gwneud yn aml i ddwyn Quavers tra’r oeddwn innau yn y môr, ac i nôl fy ffôn i mi gael ffonio Mam a Dad. Chwarddodd yn uchel ar fy mhen a hedfanodd i ffwrdd. Yna, gwelais gwpl yn mynd am dro i gyfeiriad Rhiw. ‘Help,’ gwaeddais. Ond hen waedd digon tila oedd hi, ac ni chlywodd neb mohono i. Doedd dim amdani felly ond llusgo fy nghorff o’r môr gyda’r surfboard yn llyffethair rownd y ffêr a’r llanw’n llercian y tu ôl i mi. O’r diwedd, llwyddais i gyrraedd fy mag a ffonio Mam.

‘Wti’n gallu sefyll arni?’

‘Na.’

‘Ffonia ambiwlans. Dad a fi ar y ffordd.’

Doeddwn i erioed wedi ffonio 999 o’r blaen, felly, dyma fi’n ffonio am ambiwlans fatha taswn i’n ffonio am chicken sweet and sour:

‘Can I have an ambiwlans, plîs?’

Esboniais fy anffawd.

‘Where are you?’

‘Porth Nei– Hell’s Mouth.’

‘...’

‘Near Llanengan.’

‘...’

‘Near Abersoch. About six miles from Pwllheli.’

‘Can you give me the road number?’

Blydi hel.

‘Ymm... the road from Pwllheli to Abersoch is the A499.’

Final answer?

‘Yes, A499.’

‘We’re sending out an ambulance now.’

Roeddwn i’n teimlo’n wirion fy mod i wedi galw am ambiwlans ond roeddwn i’n methu’n glir â cherdded a doedd Mam a Dad druan no wê yn mynd i fedru fy nghario dros y cerrig llithrig, y tywotir anwastad a heibio’r bagiau o faw cŵn a oedd yn hongian fel trimins ’Dolig yn y gwrych yr holl ffordd i’r maes parcio. Cefais lifft gan Wylwyr y Glannau dros y dwnan at yr ambiwlans.

‘Mi fydd rhaid i ni dorri’r wetsuit i jecio dy ffêr di, oce?’

Cytunais yn drist. Roedd cyllid y PhD wedi dod i ben ers blwyddyn – sut ddiawl y byddwn i’n fforddio siwt newydd rŵan? Byddai’n rhaid imi gael job, fel pawb arall. Edrychodd y ddau barafeddyg arna i yn llawn cydymdeimlad.

‘Ti wedi torri dy ffêr.’

Syllais yn ddigalon arni. Edrychai fel pe bai rhywun wedi stwffio pêl tenis ynddi.

Cefais flanced, dŵr, paracetamol a gas and air – y full works – gan y parafeddygon caredig.

Mwynheais y gas and air yn arw. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, ymddiheurais am y drafferth cyn diolch iddynt am fod mor lyfli a datgan fy mod yn gobeithio cael plant rhyw ddiwrnod i gael gas and air eto. Ac yno y bûm am oriau, yn marw o gywilydd mewn gwisg nofio a thywod Porth Neigwl yn crafu rhwng bodiau fy nhraed.

‘Non Mererid Jones?’

Pelydr X o’r diwedd.

‘Dau fracture – y tibia a’r fibula. Bydd rhaid iti gael llawdriniaeth.’

*

‘The risks of surgery are: infection... and you could end up with post-traumatic arthritis. That’s just the nature of the beast,’ meddai’r llawfeddyg yn ddisymwth cyn troi ar ei sawdl a diflannu i lawr y coridor. Doedd ganddo ddim bed-side manner ond doedd diawl o ots gen i. Os byddai’n llwyddo i drwsio’r ffêr, câi siarad efo fi fel licith o. Daeth y nyrs annwyl draw efo gwisg imi: coban, hosan a nicyrs a oedd yn debycach i rwyd gwallt.

‘Ydyn nhw’n llnau’r goes cyn ei hagor? Dw i heb gael cawod ers i mi fod yn y môr.’

Edrychodd y nyrs arna i’n syn cyn esbonio y byddant yn ei throchi mewn ïodin. Roedd hynny wedi tawelu fy meddwl. Doeddwn i dal ddim yn siŵr a oedd gen i alergedd i benisilin ond ta waeth, roeddwn i’n barod am y llawdriniaeth. Brasgamodd y nyrs i ffwrdd gyda’i chlipfwrdd cyn dychwelyd â’i gwynt yn ei dwrn â’r neges:

‘Maen nhw’n barod amdanat ti.’

Doeddwn i erioed wedi teimlo mor ddiymadferth ag yr oeddwn yn cael fy ngwthio i lawr y coridor drwy’r drysau ‘Dim mynediad’ i ystafell yr anesthetyddion.

‘What’s your favourite drink?’ holodd yr anesthetydd.

Fe’m lluchiwyd gan y cwestiwn hwnnw.

‘Fodca’, me’ finnau am ryw reswm.

‘Okay... we are now giving you vodka. It’ll make you feel good.’

‘Can you sing?’

Erbyn hynny roedd yr anesthetig wedi cydio ynof ac roeddwn i’n rhy gysglyd i adrodd hanes fy ymgais drychinebus i ganu Jolene ar y carioci mewn parti ’Dolig y llynedd. Llifodd yr anesthetig drwy fy ngwythiennau a llithrais innau i’r duwch dros dro.

*

Mae wythnos wedi llusgo heibio ers y llawdriniaeth. Mae’r cabin fever yn fy nrysu yn barod ac mae golwg orffwyll arna i. Er bod gen i lwyth o waith PhD i’m cadw’n brysur yn ystod yr wythnosau nesa’ ’ma, fel un sy’n haeddu PhD mewn procrastination, dechreuais feddwl beth arall y gallwn ei wneud i’m cadw’n ddifyr. A dyna pryd y cefais i brênwêf. Es i ar y we ar unwaith a phrynu copi ail-law o Clywed Cynghanedd. Penderfynais fy mod am ddysgu sut i gynganeddu er mwyn ysgrifennu awdl hirwyntog a chathartig am hanes y ffêr. Byddwn yn siŵr Dduw o ennill y Gadair. Ond ar ôl darllen am ddeuseiniaid lleddf a thalgron, collais fynadd yn llwyr. Rhoddais y llyfr yn ôl ar y silff a meddyliais y byddai’n haws o lawer ysgrifennu darn myfiol fel hwn a’i anfon at olygyddion Y Stamp.

385 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page