top of page
Golygyddion

RHIFYN: Y STAMP #6 - Gaeaf 2018

Mae bron i dair wythnos wedi hedfan heibio ers ein lansiad yn yr High St. Social yn Nhreorci, ac er bod y rhifyn print wedi mynd allan i bob cwr o'r wlad a thu hwnt er hynny - mae hi bellach yn bryd i ni gyflwyno'r rhifyn newydd yn ei holl ogoniant AM DDIM i chi ddarllenwyr ar-lein ei lawrlwytho. Dilynwch y ddolen isod i ddarllen rhifyn newydd sbon y gaeaf ...

Rhwng cloriau trawiadol Marian Brosschot, mae gwaith gan lu o feirdd, llenorion, artistiaid, adolygwyr ac ysgrifwyr arbennig. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu gwaith cymaint ag y gwnaethom ninnau.

Os ydych chi fel rhai yn hoff o gael copi papur yn eich llaw, gallwch archebu copi at eich stepen drws o'n siop ar-lein neu mae modd i chi brynu copi yn unrhyw un o'r siopau hyn:

Llên Llŷn, Pwllheli

Palas Print, Caernarfon

Siop Lyfrau'r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog

Awen Meirion, Y Bala

Siop Inc, Aberystwyth

Siop y Pentan, Caerfyrddin

Cant a Mil, Caerdydd

Roeddem yn ffodus iawn o gael cwmni'r artist amryddawn Siôn Tomos Owen (@sionmun) yn lansiad Rhifyn 6 yn Nhreorci. Dyma rai o'i argraffiadau o'r noson i chi eu mwynhau.

Adloniant cerddorol y noson oedd Aled Warwick. Dyma'r tro cyntaf i rywun ddod â harmoniwm i un o lansiadau'r Stamp - rydan ni'n dal i dorri tir newydd ...

Cafwyd cerddi gan Nerys Bowen a Caryl Bryn, dwy o gyfrannwyr y rhifyn newydd. Cafwyd cerddi gan Siôn hefyd, ac maent i'w gweld ochr yn ochr â'i ffotograffiaeth yn y cylchgrawn.

A dyma ambell lun o'ch annwyl olygyddion - rhag ofn eich bod chi wedi anghofio sut olwg sydd arnom ni ...

Mwynhewch y rhifyn a mwynhewch fis Rhagfyr a'r Flwyddyn Newydd, beth bynnag fydd yn mynd â'ch bryd chi. Cofiwch y byddwn ni'n parhau i gyhoeddi yn wythnosol ar y wefan, ac yn paratoi rhifyn Gwanwyn 2019 erbyn mis Mawrth.

Cofiwch hefyd fod cyfle i rywun newydd fod yn rhan o'r gwaith o roi'r cylchgrawn yma at ei gilydd. Mae dyddiad cau'r swydd olygyddol am hanner nos ar y 31 Rhagfyr. Gallwch ddod o hyd i'r holl fanylion yma.


285 views0 comments
bottom of page