top of page
Y Stamp

RHIFYN: Y STAMP #7 - Gwanwyn 2019


Fe ddaeth hi'n bryd o'r diwedd i ni ryddhau ein rhifyn diweddaraf i lygaid y byd. Cawsom lansiad stampus i ddathlu dyfodiad Rhifyn 7 yn CellB, Blaenau Ffestiniog ddiwedd Mawrth, ac ers hynny mae'r copis wedi bod yn hedfan allan i bedwar cwr; gan gadw'r postfeistr stampus Llŷr Titus ar flaenau ei draed.

Cyn dweud rhagor felly, dyma chi'r ddolen i lawrlwytho eich copi CHI o Stamp y Gwanwyn. Setlwch nôl, a suddwch rhwng y tudalennau.

Yn ogystal â'r rhifyn mwyaf swmpus erioed (44 tudalen), roedd prynwyr y rhifyn print hefyd yn cael poster arbennig o waith Ani Saunders. Gallwch ei lawrlwytho a'i fwynhau yma:

Os yw hi'n well gennych chi - fel rhai ohonom ninnau - dderbyn eich Stamp drwy dwll yn eich drws, yna fe allwch archebu eich copi drwy'r post o'r wefan.

Gallwch hefyd gefnogi eich siop lyfrau leol trwy brynu o'r mannau hyn sydd bellach oll yn stocio ein cyhoeddiadau stampus:

Cwpwrdd Cornel, Llangefni

Awen Menai, Porthaethwy

Palas Print, Caernarfon

Llên Llŷn, Pwllheli

Siop yr Hen Bost, Blaenau Ffestiniog

Awen Meirion, Y Bala

Siop Inc, Aberystwyth

Siop y Pentan, Caerfyrddin

Cant a Mil, Caerdydd

(Os nad yw eich siop leol ar y rhestr hon - cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ein gorau i drefnu bod Y Stamp ar gael yno yn y dyfodol!)

Felly am y tro, mwynhewch, ystyriwch, rhannwch, stampiwch. Fe fyddwn yn ein holau efo rhifyn newydd sbon cyn i chi allu dweud 'pryd mae wythfed rhifyn y Stamp yn mynd i fod ar gael, dwedwch?'

cofion stampusaf oll

Y Stampwyr

237 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page