top of page
Morgan Owen

Ysgrif: Y ddinas hir - Morgan Owen


Mae rhai profiadau mor amheuthun fel eu bod nhw’n cael eu hanghofio ar unwaith, bron, fel pe baent yn rhy beryglus o swynol i’w codi o’r gorffennol; fel pe byddent yn peri gormod o ddadrith i rywun ym mhydew ei fyd go iawn, normal. Gall galw rhai adegau penodol i gof ddwysáu diflastod y presennol. Tan yn ddiweddar iawn, bu gen i atgof dan gladd, heb yn wybod imi; roeddwn yn cofio fy mod yn ei gofio, wrth gwrs, ond fe’i gadewais yng nghefnfro fy meddwl. Am fy mod i bellach yn aeddfetach, a’r reddf grwydrol yn fwy soffistigedig a disgybledig, gan ymglymu â’m byd yn ei holl amryffurfedd yn hytrach na’m hannog i ffoi er mwyn ffoi, gallaf dynnu’r atgof hwn o’r pridd llaith a’i gofleidio eto wrth i’r gwanwyn gnocio ar ddrws y ddaear.

Euthum gyntaf i’r Brifysgol i astudio llenyddiaeth Saesneg. Anodd gen i gredu hynny heddiw, ond dyna oedd fy mhwnc cryfaf yn yr ysgol. Wedi blwyddyn o honno, cefais fy nadrithio’n chwerw: fe’m cefais fy hun mewn amgylchedd dosbarth canol uwch tra Seisnig, ac ôl-feddwl, ar y cyfan, oedd llenyddiaeth ei hun. Nid oedd dim bywyd, nac angerdd. A’r pryd hynny y gwnes i hefyd ddarganfod fod fy iaith arall, a fu gen i o’r cychwyn, yn bwysicach o lawer nag y gallwn fod wedi deall cyn gadael i fynd i’r Brifysgol. Rhoddais y gorau i lenyddiaeth Saesneg cyn diwedd y flwyddyn academaidd, a byddwn yn cychwyn ar gwrs newydd ym mis Medi. Byddwn maes o law yn gwneud gradd yn y Gymraeg. Fel hyn y cefais fy mwrw i freichiau’r haf hwnnw, yn gyffrous ond amheus o hyd, gyda rhyw ofn ynof y byddwn yn mynd o gwrs i gwrs wedi cyfres o ddadrithiadau dros y blynyddoedd nesaf, heb sôn am yr hyn a wnawn yn y blynyddoedd wedyn.

Rhyw brynhawn gwag, di-amcan yn fy stafell wely ym Merthyr felly, a’r heulwen swrth yn agor cil y gorwel yn fy meddwl, penderfynais y byddwn yn mynd i ddinas dramor. Penderfynais ar chwiw, yn ymddangosiadol, ond roedd y diflastod wedi bod yn corddi ynof ers imi ddychwelyd o’r brifysgol. Er nad oeddwn wedi bod i ffwrdd am flwyddyn gron hyd yn oed, deuthum yn ôl i Ferthyr yn ddieithryn, ac roedd fy hen gydnabod ar wasgar – fel y byddent byth oddi ar hynny. Ym mlynyddoedd olaf yr ysgol, breuddwydiais fy mod yn cerdded drwy strydoedd dinas bell (neu ddinas gyfandirol, o leiaf), dan orfoleddu yn y teimlad o fod yn neb, o fod heb unrhyw gysylltiad â’r pobl a’r llefydd o’m hamgylch oni bai fy mod yno ar y pryd, ar grwydr. Gyda hynny mewn golwg o hyd, consuriais ddinas yn fy mhen, ac fe gyfatebodd i Amsterdam – felly dyna brynu tocyn bws i’r maes awyr yn Llundain, tocyn awyren i Amsterdam, a phedair noson mewn gwesty yno.

Nid oedd ond rhyw wythnos i drefnu popeth, a daeth diwrnod y gadael yn syndod o gyflym fel taw prin y cefais gyfle i hel breuddwydion liw dydd nac ymchwilio i’m cyrchfan. Roeddwn yn mentro i fyd na wyddwn ddim amdano, ac yn betrus feddwi ar y rhyddid pensyfrdanol sy’n deillio o deithio ar dy ben dy hun, yn dy amser dy hun. Y peth agosaf a deimlais i hwn cyn hynny oedd sefyll yng ngorsaf drenau Kraków ar drip ysgol a syllu ar yr hysbysfwrdd. Nodais enwau’r gwahanol ddinasoedd dan ddychmygu pa mor hawdd fyddai prynu tocyn a mynd i ba le bynnag; doedd dim byd yn fy rhwystro, a gallwn yn hawdd fod wedi ffoi. Cïef, Mosgfa – Istanbwl, hyd yn oed, gydag ambell newid. I mi, roedd y cledrau hynny yn sefyll dros bosibiliadau rhy amrywiol i’w hystyried yn iawn heb bendro. Roedd y profiad hwn yn drwm ar fy meddwl ar y bore llwyd a llaith hwnnw ar yr ugeinfed o Fehefin wrth imi adael Merthyr ar y trên cynnar i Gaerdydd, a’r meddwon yn canu cyn y ceiliog yn y cerbyd gwag. Byddwn wedyn yn dal bws yng Nghaerdydd i’r maes awyr ar gyrion Llundain ac yna hedfan i Amsterdam.

Cyfres o sgytwadau oedd hanes y daith oddi ar y pwynt hwn.

*

Er gwaetha’r holl wynfydu dros ryddid y daith, roedd sefyllian yn y maes awyr anferthol yn gychwyn ar gyflwr rhyfedd a’m dilynodd i Amsterdam: ymhollti. Daw’r teithiwr unigol yn ymwybodol o’r profiad hwn yn syth bin ar ôl camu dros riniog y maes awyr, oherwydd o’i amgylch mae cynifer o bobl wahanol, holl amrywiaeth y ddaear, a hefyd dipyn o afiaith (yn enwedig yn ystod yr haf). Daw’n wyliadwr o’i anfodd. Roedd gen i ddigon i’m cadw’n brysur felly, digon i sicrhau fy mod i’n effro ac yn ymwybodol o’m hunan a’r hyn oedd rhaid ei wneud, ond cefais fy hunan yn ymglymu â’r pytiau o sgyrsiau a ddeuai ataf o bob cyfeiriad, a minnau yng nghanol gwe o egin-fydoedd a straeon ar eu hanner. Roeddwn yn ymwybodol y pryd hwnnw fod dau ohonof: un a oedd yn myfyrio ar y profiadau hyn, yn trafferthu â manion teithio ac yn llywio fy nhraed yma a thraw; ac un arall a oedd wedi crwydro fel plentyn styfnig i ganol y dorf, yn rhan o’u teithiau nhw. Cenfigennwn wrtho. Cludwn y pellter rhwng y ddau berson hyn y tu mewn imi, yn fwlch rhyfedd. Pan ddaeth hi’n bryn imi aros am yr awyren, trois at y llyfr a ddeuthum gyda fi: cyfieithiad Saesneg o Nocturno de Chile gan Roberto Bolaño. Fe wnaeth hwn ddyfnhau pob hollt.

Y bore cyntaf yn Amsterdam, roedd hi’n llwyd a tharthog. Anelais at ganol y ddinas o gyfeiriad fy ngwesty (cyrhaeddais hwyr y prynhawn y diwrnod cynt, ac felly ymgyfyngais y noson honno i’r ardal ger y gwesty, y Leidseplein, gan mwyaf). Y pryd hwnnw fe wawriodd arnaf fy mod mewn dinas dramor ar fy mhen fy hunan, ac roeddwn yn wefr i gyd. Crwydryn oeddwn bellach, rhywbeth mwy gweithredol na gwyliadwr. Fy chwaeth oedd fy unig amserlen; gallwn wneud beth bynnag a fynnwn, a mynd i unrhyw le. Teimlais ddau beth arwyddocaol wrth gerdded ar hyd y camlesi a’r lonydd bach troellog rhwng gerddi a chyrtiau. Yn gyntaf, roedd perlewyg y newydd-deb pur o’m hamgylch (roedd y cyfan yn anghyfarwydd imi, wrth reswm) a’r ffaith fy mod yn mynd i ba le bynnag y mynnai fy synhwyrau fy nhywys, yn peri imi deimlo fel ysbryd, yn bresennol ond heb fy effeithio rhyw lawer gan bethau’r byd cyffredin. Nid oedd trefn feunyddiol y ddinas yn gafael ynof. Yn ail, fod y rhyddid hwn, yr antur a’r cyffro o fod heb angor, yn hirhau’r strydoedd: teimlai fel petai pob stryd yn estyn dros bellter amhosib o hir.

Roedd amser a gofod wedi newid imi felly. Gan fod cyn lleied o ganol Amsterdam wedi ei ddinistrio yn yr Ail Ryfel Byd, yn wahanol i lawer o ddinasoedd mawrion y cyfandir, mae’r amgylchedd yn allyrru rhyw hynafoldeb bywiog, ac mae’r camlesi a’r hewlydd cylchol yn awgrymu tragwyddoldeb (cyfres o ddolenni yw Amsterdam yn y bôn sy’n cau am y canol, gyda phob dolen yn lleihau yn ei thro). I mi ar y pryd, roedd y strydoedd hynny yn parhau am byth. Ym mhob peth, bron, roedd y ddinas yn cyfateb i’r freuddwyd a welais yn fachgen ysgol. Nid yw Amsterdam yn arbennig o bell, ond ymglywn eto i gyd â’r pellter, a phopeth cyfarwydd imi yn dipyn o daith i ffwrdd. O feddwl am hyn, aeth y strydoedd yn hirach byth, nes bod Amsterdam i gyd yn chwyddo i faint cyfandir. Daeth yn sgil hyn nid yn gymaint ddiymadferthedd ond syrthni egnïol – rhyddhad am na allwn ddisbyddu’r lle hwn. Y gogoniant pennaf oedd gwybod y byddai cymaint ohono yn parhau i fod yn ddieithr ac yn noddfa i’m breuddwydion.

*

Ymhollti. Ar ôl cwpwl o ddyddiau, pylodd y wefr beth. Er imi barhau i gael fy syfrdanu gan y golygfeydd wrth imi chwilota yn yr argelion, ym mhocedi’r ddinas droellog, roedd y diffyg ymwneud cyson â phobl y tu hwnt i lefel sgwrs wrth-fynd-heibio yn tymheru ar y rhyddid. Daeth yn amlwg y gallai rhywun, o bosib, ddisbyddu syndod y strydoedd cylchol, waeth pa mor dragwyddol ydynt. Cefais yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano yn wreiddiol: ymdeimlo â phellter ac ymdoddi i amgylchedd hollol anghyfarwydd. Cefais fod yn neb. Ond prin imi ffoi rhag dim, am fod y difaterwch adre a’m gyrrodd ar daith yn fy nilyn o hyd. Dyna ddarganfod taw cyflwr mewnol yw rhyddid a bodlondeb, nid rhywbeth y gellir ei ollwng rywle. Ni allwn ffoi rhag fy hen ffordd o weld y byd, un a’m gwthiodd i gell prin ddigon mawr i un person. Gwelais fod yr ymhollti a brofais yn y maes awyr yn rhith. Ond wrth i unigedd ddechrau cau amdanaf, bwriais y rhwystredigaeth oedd wedi bod yn cronni cyhyd fel bwrw hen groen blinedig yng ngholau’r sylweddoliad hwn.

Dyna a drodd y fantol, dyna oedd y dihuno. Nid oedd yn ddramatig; roedd yn debycach i gofio hen enw a lithrodd o’r cof yn sydyn. O hynny allan, byddwn yn ymagor i’r byd ac yn ymwybodol o’r cyfnewidrwydd parhaus sy’n atal unrhyw wir sefydlogi a gorgynefindra. Crwydryn oeddwn o hyd, ond ar hewl ehangach. Gadewais gragen yr hunan, sy’n mynnu ffoi rhag rhyw fyd crebachlyd a greodd o’i dra-ha. Cywaith yw taith rhwng byd a theithiwr sy’n newid bob eiliad fel ei gilydd. Creu yw bod: creu map o bob eiliad a phob cam, map nad yw byth yn sefydlog. Ni fydd disbyddu ar hwn. Felly y gadewais Amsterdam, yn grwydryn dan gyfaredd.


57 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page