top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green


Ers rhywfaint o amser, degawd efallai, rwyf wedi bod yn ymwybodol bod gennyf obsesiwn â’r cysyniad o amser a’r gwahanol brofiadau sydd yn deillio ohono. Mae’r diddordeb yn cynnwys safbwynt meicro fel y profiad o lif amser yn fy arddegau fel rhywbeth dwys a sefydlog, hyd at y teimlad o freuder neu fertigo yn ddiweddarach. Ond mae’n cynnwys ystyried hefyd y darlun mawr, fel petai, wrth ymddiddori yn y cysyniad o dragwyddoldeb – yr hyn sydd y tu allan i amser, mindblowing ynde? – neu sut y cafodd a sut caiff amser ei bortreadu gan wahanol ddiwylliannau. Rwyf yn dal i gofio’n dau aha moment yn glir: pan ddysgais fod ideoleg cynnydd wedi ei seilio ar ddeall amser fel 'ymlaen ac i fyny' (mae’n esbonio cymaint); a darllen ‘Cultural Preparation’ a ‘The Monastery and the Clock’ gan Lewis Mumford, a hwythau’n dod yn syth i’m cof wrth sylwi cymaint o glociau sydd o gwmpas y gofod cyhoeddus ym Mhrydain.

Sôn am ofod, hoffwn y tro hwn gyfaddef i ddarganfyddiad mwy diweddar, sef bod gennyf ddiddordeb cryf mewn gofodoldeb hefyd. Hynny yw, y gofod fel lle, lleoliad a daearyddiaeth, a’i effeithiau ar bobl. Nid yn unig hynny, ond y cysyniad o hollbresenoldeb (ubiquity) a gysylltir yn aml yn y dyddiau hyn gyda dyfodiad y Rhyngrwyd er bod iddo rywfaint o hanes y tu ôl iddo, fel ei berthynas â thragwyddoldeb. A hynny oherwydd y ddau ddimensiwn a drafodir yma yn dod at ei gilydd yn y continwwm gofod-amser sy’n rheoli ein bydysawd, yn ôl y wyddoniaeth bresennol. Ond cyn hedfan yn rhy bell, a gan mai mudo yw thema’r mis, bydd y pwyslais yma ar yr elfen ofodol, yn benodol ar y syniad o ‘newid gofod’ a rhai o’r rhesymau sydd wrth wraidd y weithred o fudo o safbwynt rhywun o Dde America.

Rwy’n wreiddiol o’r Ariannin, gwlad sydd â hanes diamheuol o bobl a newidiodd eu gofod, eu lleoliad ar y map. Ryn ni’n gwybod am frodorion y tirwedd o fewn ei ffiniau presennol fel y tobas, mocovíes, matacos, guaraníes, aymaras, quechuas, tehuelches, mapuches, yamanas neu'r onas, ymhlith eraill, a rhai ohonynt yn nomadiaid. Ry’n ni’n gwybod hefyd y concrodd Ymerodraeth yr Incas rai ohonynt yn y 13eg ganrif ac ymestyn dros rannau o’r hyn a elwir heddiw’n Colombia, Bolivia, Ariannin a Tsile, gyda chanolbwynt yr ymerodraeth honno yn Cusco, Periw. Ac ry’n ni’n gwybod am Ymerodraeth Sbaen a’i choncwerwyr yn gadael y penrhyn Iberaidd o’r 15fed ganrif ymlaen er mwyn setlo, caethiwo ac amsugno cyfoeth yr ‘India newydd’ ar gyfer eu coron.

Ni fu i ymerodraeth bara am byth erioed ac o’i gweddillion deilliodd, ymysg gwledydd eraill, yr Ariannin. Rhwng 1880 a 1930 mwy neu lai, mabwysiadodd yr Ariannin fodel amaeth-allforio yn dilyn y rhaniad rhyngwladol o lafur a drefnodd y byd yn y cyfnod hwnnw. Er mwyn ei gwblhau chwaraeodd yr wladwriaeth rôl allweddol o ran y boblogaeth: y cam cyntaf oedd ehangu'r ffiniau ac, o’r herwydd, cynhaliodd hil-laddiad systematig o’r brodorion oedd ar ôl. Yr ail gam oedd dod ag ymfudwyr o Ewrop. Mae cymal 25 y Cyfansoddiad Cenedlaethol yn datgan: ‘Bydd y Llywodraeth yn hyrwyddo’r mewnfudo Ewropeaidd; ni all gyfyngu na gosod unrhyw dreth ar fynediad tramorwyr i diriogaeth yr Ariannin sy'n dod i weithio’r tir, gwella’r diwydiannau, a chyflwyno ac addysgu gwyddoniaeth a'r celfyddydau’. Hwy fyddai’r gweithlu angenrheidiol i gynhyrchu'r deunydd crai a fyddai'n cael ei anfon i'r gwledydd canolog i'w troi'n nwyddau – roeddent hefyd wedyn i fod i brynu'r nwyddau hyn er mwyn i'r gwledydd canolog wneud yr elw go iawn, fel y dangosir yng nghytundeb Roca-Runciman.

Er y croeso mawr hwn, defnyddiwyd y ddeddf Ley de Residencias o 1902 ymlaen yn erbyn trefniant undeb y gweithwyr ac i alltudio’n bennaf anarchwyr a sosialwyr. Mae gwibio ymlaen i’r saithdegau yn dangos diweddariad o’r duedd hon: o’r Ariannin i Fecsico, Ffrainc neu Sweden aeth yr exiliados, yr alltud. Gwibio ymlaen eto ac fe welir sut yr arweiniodd chwarter canrif o bolisïau neoryddfrydol i’r wlad ffrwydro unwaith eto ar droad y mileniwm. Dyma dro Sbaen yn bennaf i dderbyn llif o Archentwyr a oedd yn gadael eu gwlad i ailddechrau eu bywyd. Nid yw’n syndod felly bod mudo – mewnfudo ac allfudo – yn rhan bwysig o hanes gwlad ifanc fel Ariannin, o’i naratifau a’i hunaniaeth.

Am y rhesymau hyn mae gan lawer o’m ffrindiau basbort o Sbaen, yr Eidal, yr Almaen, Gwlad Pwyl, ac yn y blaen. Mae’r cyfuniad o’u teidiau a’u neiniau’n dianc rhag newyn a rhyfeloedd yr hen gyfandir ac elit Ariannin yn agor drysau’r wlad ganrif yn ôl yn golygu eu bod heddiw’n gallu teithio neu ymsefydlu yn Ewrop fel dinasyddion yr UE. Maent yn synnu wrth ddarganfod nad yw hynny’n wir imi am i fy nghyndeidiau ymfudo yn rhy bell yn ôl imi gael yr un hawl. Pob tro rwy’n cyrraedd Cymru – y Deyrnas Unedig – rwy’n gorfod ciwio wrth All passports, llenwi ffurflen, ateb cwestiynau gan swyddog y Border Police, tra’u bod hwythau’n disgwyl amdanaf yr ochr arall i’r ffin. Mae gennyf ffrind yma yng Nghymru sydd bellach yn fy ngalw’n ‘overseas’ ar ôl sylwi bod wastad ffurflen arall y mae’n rhaid imi ei llenwi.

Dangosodd hanes yr ugeinfed ganrif beryglon ideoleg cynnydd, ac ni wyddom bellach a yw'r dyfodol mewn gwirionedd ymlaen ac i fyny. Fodd bynnag, mae’r bobl yn dal i newid gofod, yn dal i ailddechrau yn rhywle arall. Mae y tu ôl i bob mewnfudwr neu allfudwr stori a rhesymau personol dros adael cynefin ond mae’n debygol iawn y bydd y fath benderfyniad yn ymwneud hefyd ag amodau hanesyddol penodol. Yn y cyfrodeddiad hwnnw o resymau personol a strwythurol y cafodd fy achau eu plethu. Roedd mam fy nhad yn dod o Galisia, a theulu fy nhaid yn dod o Wlad y Basg. Ar ochr fy mam mae gennyf un hen daid o Loegr a daw gweddill y teulu o bob cornel o Gymru, gan gynnwys Caergybi, Glyn Ceiriog ac Aberdâr. Pe na baent wedi ymfudo, ni fyddwn i yr hyn ydw i, sef rhywun sydd hefyd heddiw’n bell o’i filltir sgwâr oherwydd rhesymau sy’n cydblethu mewn ffordd tebyg. Er ei bod yn hawdd cwyno weithiau am gymhlethdodau bod i ffwrdd, rwy’n ymwybodol o fy sefyllfa freintiedig ac yn falch o bob un o’r gofodau a elwais yn ‘adref’ hyd yn hyn, boed yn Gwm Hyfryd, yn Buenos Aires, yn Gaerdydd neu yn Fangor. Rhywsut I learn to love the skies I'm under. But hold me fast.

39 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page