top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Ysgrif: Beth, ti'n bwyta - Bethan Sleep


Ysgrif am deithio, a'r pethau blasus sy'n rhan o hynny ...

Mewn caffi Ffrengig yn Melbourne, weles i eirie craff Virginia Wolf: ‘One cannot think well, love well, sleep well, if one has not dined well.’ Mae'r dyfyniad yma wedi aros gyda mi tra'n teithio. Mae'n wir, nagyw e? Ody unrhyw un erioed wedi gwneud unrhyw fath o benderfyniad call ar stumog wag? Oes posib gwerthfawrogi lle newydd a'i holl ddanteithion celfyddydol, hanesyddol, naturiol heb goffi 'magic' a gelato​ Nutella melfedaidd; neu ŵy di potcho’n berffaith; neu ysgytlaeth sydd mor fawr nes ei fod yn dy ddanfon yn syth nôl i fod yn chwe mlwydd oed?

Weithie, y pethau symlaf sydd orau. Cyrraedd copa mynydd, edmygu'r olygfa a chael yr ansh cynta o frechdan llwyddiant PB a jam. Gwin sneaky, oer, oer wrth ymyl llyn neu lan môr mewn cwpan goffi, siarad mân a sŵn chwerthin yn sisial ar yr awel. Coffi cryf yn pweru'r cynllunio a'r boddhad o wybod bod rhywbeth arall gwerth chweil ar y gweill.

Weithie mae bwyd yn cadw'r hiraeth wrth law. Cysur clotted cream​ ​ mewn llaethdy yng nghanol fforest law; lle swreal i nostalgia​ hafau'r gorffennol lifo'n ôl drwy dy wythiennau. Hash brown crisp​ a squishy​ mewn bap meddal a phob condiment dan haul i godi'r galon yn y ffordd all dim ond double carb ei wneud.

Elen Ifan, sydd ar daith efo Beth ar hyn o bryd. Darllenwch ei cherdd ddiweddar ar wefan Y Stamp, 'Bae Onuku', Dydd Gŵyl Dewi 2019.

Gelli fentro, 'fyd. Beth yw afal cwstard? Pam bod e'n edrych mor slimy​? Holy shit​​, mae'n blasu'n gwmws fel cneueun goco, peren a mango i gyd 'da'i gilydd; ddim EVEN​ fel afal!

Mae bwyd, wedi'r cwbl, yn rhan o'n hunaniaeth. Mae'n holl-bwysig i ddod â phobl o'r un diwylliant a diwylliannau gwahanol at ei gilydd. Mae'n agor drysau i fywydau gwahanol, agweddau gwahanol ac i flasau​ gwahanol. Se ni fel Cymry dal yn styc ar dato heb fudo a mewnfudo (er, sdim byd yn bod ar bach o mash​ llawn menyn). Mae'n gwneud ein byd ni'n llai yn y ffordd orau posib: trwy wneud ein dealltwriaeth yn fwy.

Mae darganfod bwydydd newydd a chyflwyno rhai cyfarwydd i eraill fel adio joch go dda o win neu dwmpyn o fenyn i saws; mae'n cyfoethogi ein profiadau, ein hatgofion a'n bywydau. Mae gorffen ’da brawddeg fach cheesy yn addas iawn, fi'n meddwl.

161 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page