top of page
Y Stamp

RHIFYN: Y STAMP #8 - Haf 2019


Newyddion da o lawenydd mawr a ddaeth i'r fro - sef bod wythfed rhifyn Y Stamp bellach ar gael

AR LEIN

AM DDIM

YN EI HOLL OGONIANT.

Yn y rhifyn swmpus-fendigaid hwn, cewch fwynhau cerddi gan Hanan Issa, Matthew Tucker, Osian Owen, Judith Musker Turner a Morgan Rhys Powell; rhyddiaith gan Dr. Iona Gwilym a Mared Roberts; sgriptiau gan Lowri Cêt a Rhiannon Lloyd Williams; celf gan Jeno Davies, Bedwyr Williams, Seren Morgan Jones, Judith Musker Turner, a Lleucu Non; ffotograffiaeth gan Llion Gethin a Morgan Rhys Powell; ac ysgrifau gan Grug Muse ac Alun Saunders - heb sôn am adolygiadau gan Elis Dafydd, Manon Awst, Sara Louise Wheeler a Gareth Evans Jones, a maniffesto creadigol campus Elgan Rhys.

Hyn oll rhwng cloriau hardd gan yr artist Jeno Davies.

Felly, heb oedi mwy, dyma'r linc angenrheidiol i chi lawrlwytho eich e-Stamp personol eich hun:

Ac fe allwch chi ddefnyddio'r linc isod i lawrlwytho atodiad arbennig y rhifyn hwn, sef dwy gerdd gan Osian Owen a Matthew Tucker a ddaeth yn agos iawn at y brig yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni:

Ar y pwynt yma, fel arfer, fe fyddem ni'n dweud wrthoch chi am fynd i brynu'r rhifyn print o'r we FAN HYN, ond yn anffodus-ffodus, fe werthodd y copiau mor dda ar faes y steddfod, nes nad oes yna ddigon i ni eu gwerthu nhw fan hyn hefyd! Felly, os am gopi papur yn eich llaw, ein hawgrym ydi eich bod yn mynd draw i'ch siop lyfrau leol i fynnu copi ar unwaith (cewch restr gyfredol o siopau stampus yma).

Fel arall, mwynhewch y darllen - daliwch i stampio, a chofiwch - os ydach chi awydd cyfrannu unrhyw beth i'r Stamp, boed yn waith creadigol, yn ysgrif, yn adolygiad, yn gerdyn post creadigol, neu'n rywbeth nad oes modd rhoi label twt fel y rheina arno fo; cysylltwch, da chi. Welwn ni chi'n fuan!

370 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page