top of page

Stori Fer: Dychmygwch - Ceinwen Jones

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Jan 28, 2020
  • 2 min read

Dychmygwch ddrws yng nghanol cae. Cae eitha bach ydi o. Does na’m byd arall yn y cae. Ond fedrwch chi glywed defaid yn y cae drws nesa. Symudwch eich pen i edrych draw arnyn nhw. Gwyliwch am ennyd wrth iddynt bori’n ddistaw. Clywch oen bach yn brefu am ei fam o gongol y cae. Clywch ateb cariadus y fam o’r ochr draw a gwyliwch nes i’r ddwy ddod o hyd i’w gilydd a dechrau pori unwaith eto. Trowch yn ôl, wedi’ch diflasu. Camwch ymlaen at y drws. Dim yn rhy agos, ond rhyw gam neu ddau ymlaen o’r lle y dechreuoch. Dychmygwch fod ffrâm y drws wedi’i wneud o aur. A bod hwnnw wedyn yn disgleirio’n felyn llachar yn yr haul. Dychmygwch mai hen ddrws wedi’i wneud o hen bren, a’r paent a’r farnais wedi’i wisgo bron yn bob man arno sydd tu fewn i’r ffrâm. Dychmygwch fod planhigion yn tyfu ar hyd y drws. Gwinwydd yn tyfu’n sownd at y drws fel gwythiennau yn bolio ar groen cefn llaw. Dychmygwch ddail fel dail rhosod yma ac acw ar hyd y drws, yn wyrdd golau o gymharu â’r gwinwydd, yn fach ac yn bigog. Arhoswch yno’n gwylio. Gwyliwch un o’r defaid yn neud ei ffordd dow dow o’i chae bach clud, diogel at y drws. Gwyliwch y ddafad yn cerdded heibio i’r drws â’i phen i lawr yn ogleuo’r gwair. Mae’n stopio gyferbyn â’r drws ac yn dechrau pori. Rholiwch eich llygaid. O gornel eich llygaid gwelwch fod mwy o ddefaid wedi ymuno yn y cae. Edrychwch eto ar y ddafad. Steddwch, syllwch arni ac arhoswch nes ei bod yn codi’i phen am y degfed tro ac o’r diwedd yn sylwi ar y drws. Gwyliwch hi’n cerdded tuag ato a phetruso. Gwyliwch y defaid eraill yn camu tu ôl iddi bob yn un wrth iddi agosáu at y drws. Gwyrwch i’r ochr chydig i gael gweld yn well. Gwyliwch hi’n pwyso’i hwyneb yn erbyn yr hen ddrws pren. Mae’n agor. Gwyliwch hi’n diflannu drwy’r drws. Clywch y drws yn cau’n glep a gwyliwch y defaid yn neidio mewn braw ac yn troi i ffwrdd, ar garlam at eu cae clyd drws nesa. Codwch ar eich traed. Cerddwch at y drws. Ymestynnwch eich llaw. Chwiliwch am yr handlen. Gofalwch nad ydych yn crafu’ch llaw ar y dail. Gafaelwch yn yr handlen a’i throi. Agorwch y drws. Codwch eich troed chwith, yn barod i gamu dros y trothwy. Ewch?


Recent Posts

See All

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page