top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Ysgrif: Does dim modd prynu dy ffordd allan o argyfwng - Mabli Jones


Mae sgrolio Instagram fel merch millennial y dyddiau yma yn cynnig cyfres o luniau a hysbysiadau nodweddiadol: dillad yoga, cwpanau coffi di-blastig, nwyddau mislif amldro, deunyddiau glanhau naturiol, gwasanaethau dosbarthu bwyd figan ... Daw rhai o’r hysbysebion gan gwmnïau, ac eraill gan nifer gynyddol o ddylanwadwyr (influencers) yn cynnig delfryd o ffordd o fyw sy’n cynnwys bod yn ecogyfeillgar.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i genedlaethau iau gael eu cydio gan y bygythiad marwol sy’n wynebu ein rhywogaeth, mae symudiad enfawr wedi tyfu tuag at fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Cawn ein hannog i ‘wneud y pethau bychain’ i daclo newid hinsawdd a lleihau ein defnydd o ddeunyddiau sy’n niweidiol i’r ecosystem. Mae ystyriaethau moesegol wedi dod yn rhan o’n penderfyniadau ynglŷn â beth i’w brynu ym mhob agwedd o’n bywydau, ac o ganlyniad, mae bod yn ‘wyrdd’ wedi dod yn rhan o’n hunaniaeth fel prynwyr.

Caiff prynwriaeth eco-gydwybodol (eco-conscious consumerism) ei becynnu fel rhan o’r tueddiad cyffredinol o gwmpas ‘iachusrwydd’ neu wellness. Dyma ddelfryd sy’n cwmpasu nid yn unig ein hiechyd corfforol yn yr ystyr o fod heb afiechydon, ond ymhellach na hynny, y syniad o fod y fersiwn gorau ohonom ni ein hunain – yn gorfforol, yn feddyliol, yn broffesiynol ac yn ysbrydol. Addewid iachusrwydd yw bod modd inni berffeithio ein hunain, a thrwy hynny, y gallwn fyw mewn cytgord â’n cyrff, ein meddyliau a’r blaned.

Yr addewid i bobl ifanc sy’n llawn pryder – ynglŷn â’u gyrfaoedd, eu cyrff, eu dyfodol, stad gwleidyddiaeth a’r argyfwng hinsawdd – yw bod modd i ti ddatrys yr holl broblemau hyn a thawelu dy gydwybod trwy berffeithio ti dy hun a gwneud y pethau ‘cywir’. Problemau unigolyddol ydy’r rhain i gyd felly, pethau y gallwn – ac y dylem – eu datrys ar lefel bersonol.

Y broblem wrth gwrs yw na fydd hyn yn gweithio, oherwydd mae’r cysyniad o brynwriaeth eco-gydwybodol yn wrthddywediad. Nid oes modd prynu ein ffordd allan o’r llanast hwn. Breuddwyd gwrach ydy’r addewid bod modd cyflawni’r newid sydd ei angen trwy unigolion yn newid eu ffyrdd o brynu a byw ar lefel bersonol. Mewn byd lle mae ugain o gwmnïau’n gyfrifol am draean o holl allyriadau carbon y byd, nid dy ddefnydd di o gwpan di-blastig, neu droi’r golau bant wrth adael yr ystafell sy’n mynd i newid pethau. Yn wir, does braidd dim y gallwn ni ei wneud fel unigolion i wrthbwyso effeithiau niweidiol diwydiannau mawr a’r llywodraethau ar draws y byd sy’n plygu iddynt.

Ymhellach, mae’r cysyniad o brynwriaeth eco-gydwybodol yn atgyfnerthu’r union broblem sydd wedi ein harwain ni at y pwynt hwn: y gyriant tuag at dwf a phryniant parhaus sydd wrth wraidd cyfalafiaeth. Nodwedd graidd neoryddfrydiaeth ydy unigolyddu popeth a dinistrio’r syniad o gymdeithas gydweithredol a’n cyfrifoldebau dros ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Y gred yw bod modd i’r farchnad ddatrys popeth, ac nad oes angen i’r wladwriaeth neu gymdeithas ysgwyddo cyfrifoldeb a gweithredu.

O fewn neoryddfrydiaeth, anogir pawb i ffurfio ein synnwyr o’n hunaniaeth trwy’r hyn rydyn ni’n ei brynu a’r ffordd o fyw rydyn ni’n ei ddilyn. Rhywbeth unigolyddol a materol ydy hunaniaeth yn yr ystyr hwn. Mae hyn yn wir beth bynnag yw’r math o hunaniaeth brynwriaethol rydyn ni’n ei chofleidio, er gwaethaf yr ymdeimlad o oruchafiaeth foesol y caiff rhai ohonom drwy seilio’r hunaniaeth honno ar y pethau ‘cywir’ trwy bryderu am yr amgylchedd.

Mae rhai yn arddel hunaniaeth all ymddangos fel un sy’n gwrthwynebu hyn oll, trwy annog peidio â phrynu, ac yn lle ail-ddefnyddio, crefftio pethau ein hunain ac ail-ddarganfod ein cysylltiad ag adnoddau naturiol a thechnegau traddodiadol. Ond mae’r tueddiad asgetaidd hwn, er iddo ymwrthod â phrynwriaeth ar un wedd, yn parhau i atgyfnerthu’r tueddiad i ganolbwyntio ar weithred yr unigolyn a’r fframwaith neoryddfrydol ehangach. Trwy honni bod modd ymwrthod ag effeithiau niweidiol ein ffordd o fyw fel cymdeithas ar lefel bersonol, mae’r tueddiad hwn yn cynrychioli ymgais i encilio rhag gwleidyddiaeth ac nid yw’n fygythiad i’r system ehangach sydd angen ei herio.

Mae tueddiad felly i unrhyw hunaniaeth werdd beidio gwneud llawer mwy na lleddfu ein pryderon a’n heuogrwydd; tawelu ein meddyliau am ein bod ni’n gwneud y peth ‘iawn’ tra bod y byd yn llosgi. Mae’n rhwystro datblygiad ymwybyddiaeth a gweithredu gwleidyddol sy’n gorfodi newid ar raddfa llawer ehangach.

Caiff hyn ei adlewyrchu a’i atgyfnerthu gan y gweithredu gwleidyddol rydyn ni’n gweld (lle mae gweithredu gwleidyddol wedi bod). Mae llywodraethau’n tueddu ceisio newid ymddygiad dinasyddion fel prynwyr, yn lle rheoleiddio cwmnïau a sefydliadau mawr. Gweler, er enghraifft, y tâl o 5c am fag plastig sy’n cael ei glodfori fel un o brif lwyddiannau datganoli yng Nghymru. Yn lle rheoleiddio cynhyrchiant plastig a llygredd gan gwmnïau mawrion trwy ddeddfau a threthi ar fusnes, cynigir trethi pellach ar ddinasyddion. Yn lle mynnu bod sefydliadau yng Nghymru’n dad-fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, mae’r Llywodraeth yn cefnogi ymgyrchoedd fel ‘Awr Ddaear’ sy’n annog unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr unwaith y flwyddyn. Yna maent yn datgan ‘argyfwng hinsawdd’ i roi’r arwydd eu bod nhw ar yr ochr iawn heb weithredu’r polisïau pellgyrhaeddol sydd eu hangen os ydym am daclo’r argyfwng hwnnw.

Mae peryg inni gael ein perswadio taw problem unigolyddol ydy hwn, yn hytrach nag un cymdeithasol a gwleidyddol. Mae hyn yn arwain at feddylfryd sy’n ein caethiwo dan euogrwydd a theimlad o ddiffyg grym. Nid dadl yn erbyn gwneud y ‘pethau bychain’ ydy hyn, ond dadl dros beidio â chael ein twyllo bod hynny’n ddigon. Yn wyneb bygythiad i’n bodolaeth, y pethau mawrion sydd angen eu gwneud. Mae bod yn eco-gydwybodol o ddifri yn golygu ymwrthod â rhesymeg neoryddfrydiaeth a phrynwriaeth. Mae’n golygu bod yn wrth-gyfalafol oherwydd nad oes modd inni barhau ar y trywydd rydym ni arni ar hyn o bryd.

Mae symudiad wedi’i seilio ar bryder ac euogrwydd unigolion yn ein dad-rymuso ni fel dinasyddion. Yn ei le, mae angen canolbwyntio ar y darlun mawr a’r hyn y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd: ymgyrchu dros bolisïau radical fydd yn gwneud gwahaniaeth; pwyso ar wleidyddion, sefydliadau a gweithleoedd i weithredu; streicio o’r ysgol a’r gwaith a chymryd rhan mewn gweithredoedd uniongyrchol. Rhaid mynnu taw mater gwleidyddol ydy newid hinsawdd ac nad yn nwylo unigolion mae’r ateb. Rhaid gwneud yn glir ein bod ni’n gwrthod cydsynio i’r system hon sy’n methu â sicrhau dyfodol i ni a’n plant. Daw gobaith yn hynny o beth wrth weld y gweithredu radical gan bobl ifanc dros y blynyddoedd diweddar. Nid ydynt am fodloni gyda datrysiadau unigolyddol nac addewidion gwag ein gwleidyddion.

Mae cyfalafiaeth yn arbennig o dda am gipio a gwyrdroi bygythiadau i’r system mae’n ei chynnal. Mae gwerthu bywyd gwyrdd fel ffordd o fyw unigolyddol yn ymgais arall gan gyfalafiaeth i lyncu’r bygythiad diweddaraf. Ond nid bygythiad arferol ydy hwn - nid oes modd i gyfalafiaeth a’r blaned ill dau oroesi. Cri olaf system sy’n marw ydy’r ymgais diweddaraf hwn gan gyfalafiaeth i oroesi yn wyneb diwedd y byd. Gyda’n gilydd, ac nid fel unigolion, mae ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros adeiladu’r hyn sy’n cymryd ei le.

16 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page