top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ysgrif: Ymateb Byd-Eang i COV-19 – Model ar Gyfer Ymateb i Newid Hinsawdd? - Seran Dolma

Mae mwy a mwy o drafod ar effaith amgylcheddol COVID-19 erbyn hyn gyda lluniau o eifr ac anifeiliaid eraill yn crwydro ein dinasoedd. Seran Dolma sydd yn pwyso a mesur goblygiadau'r drychineb ddynol hon ar y byd yn ehangach heddiw ac yn holi os yw'r ymateb presennol yn cynnig patrwm at y dyfodol.



Os ydach chi'n dilyn unrhyw grwpiau amgylcheddol, neu yn enwedig XR (Extinction Rebellion, neu Gwrthryfel Difodiant, i rhoi eu henw Cymraeg arnynt) ar y cyfryngau cymdeithasol, fe fyddwch wedi gweld mapiau yn dangos effeithiau'r pandemig COVID-19 ar lefelau llygredd aer dros China, yr Eidal, ac efallai ardaloedd eraill hefyd. Wrth gwrs, tydi amgylcheddwyr ddim yn dathlu'r dinistr y mae'r salwch yn ei greu, na'r perygl i rhai grwpiau o bobl. Ond mae'n diddorol gweld beth sy'n digwydd yn y byd, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, pan mae bygythiad fel hwn yn cael ei gymryd o ddifri. Mae pobl yn aros adref i weithio, digwyddiadau'n cael eu canslo, lonydd yn gwagio, diwydiannau cyfan yn dod i stop. Mae'n sioc aruthrol ac yn dolc dychrynllyd i'r economi. Mae hefyd yn drychineb i bobl hunan-gyflogedig, y sector gelfyddydol, twristiaeth a nifer o ddiwydiannau eraill, a bydd hyn yn arwain at ddioddefaint gwirioneddol i filoedd o bobl wrth i'w hincwm ddiflannu dros nos.


Mae'r mesurau mae llywodraethau'r byd wedi eu cymryd i warchod eu poblogaethau oddi-wrth Coronavirus yn bellgyrhaeddol ac yn bethau na allwn ni byth eu dychmygu'n digwydd mewn adeg 'normal'. Hyd yn hyn mae ein llywodraeth ni wedi cynghori pobl i aros adref, aildrefnu'r gwasanaethau iechyd a'r system tâl yn ystod salwch, cau ysgolion a darparu cefnogaeth i fusnesau fydd yn colli allan. Mae hyd yn oed sibrydion am ddod â chwmnïau trafnidiaeth cyhoeddus o dan rheolaeth y sector gyhoeddus dros dro er mwyn sicrhau bod y cwmnïau sy'n eu rhedeg yn goroesi'r sioc. Mae'r wlad yn wynebu cyfnod ansicr a dychrynllyd, ac rydym i gyd yn canfod ein hunain yn gorfod gwneud pethau (neu yn amlach, peidio gwneud pethau), na fyddem wedi eu hystyried rai wythnosau yn ôl. Meddai Boris Johnson:


“We must act like any wartime government and do whatever it takes to support our economy.”


Ac mae'r gymhariaeth yn un deg – mae'r teimlad ar lawr gwlad yn un rhyfedd ac anghyfforddus. Ond beth sy'n diddorol i ystyried yw y byddai ymateb mewn ffordd credadwy ac effeithiol i newid hinsawdd yn gofyn am fesurau nid yn annhebyg i hyn o ran graddfa ac uchelgais. Ac yn wir, dylid cadw mewn golwg bod newid hinsawdd yn fygythiad yr un mor real, ac yn fwy dinistriol na’r coronafeirws. Mae Sefydliad Iechyd y Bydyn rhagweld y bydd 250,000 o bobl yn marw pob blwyddyn rhwng 2030 a 2050 oherwydd effeithiau uniongyrchol newid hinsawdd – yn cynnwys diffyg maeth, malaria, y dolur rhydd a gwres. Hyd yma mae 39,468 (31.03.2020) wedi marw o COVID-19 (wyddom ni ddim beth fydd y ffigwr erbyn diwedd y pandemig wrth gwrs). Ffigwr trychinebus i'r rhai sydd wedi colli rhywun, wrth gwrs, ond ar hyn o bryd mae'n annhebygol o fod yn y cannoedd o filoedd. Mae'r effeithiau economaidd hefyd yn ddychrynllyd i'w hystyried, gyda nifer o ffynonellau’n rhagweld dirwasgiad byd eang yn dilyn y pandemig. Ond eto, bydd effeithiau newid hinsawdd yr un mor frawychus, gydag un astudiaeth yn amcangyfrif petai'r blaned yn cynhesu o 3.7oC, byddem yn edrych ar werth $551 triliwn o ddifrod – bron i ddwywaith y cyfoeth sy'n bodoli yn y byd heddiw.


Beth mae Coronafeirws yn ei brofi yw bod gyda ni'r gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i fygythiadau yr ydym ni'n eu cymryd o ddifri. Byddai ymateb mewn ffordd debyg i'r bygythiad gan newid hinsawdd yn haws, mewn llawer o ffyrdd, oherwydd byddai gyda ni rhywfaint yn fwy o amser i gynllunio, ac i sicrhau bod yr effeithiau ar yr economi'n cael eu lliniaru, yn enwedig i'r rhai mwyaf anghenus.


Un syniad sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd yw y dylid gweithredu incwm sylfaenol i bawb (Universal Basic Income), fyddai'n gwarantu isafswm y gellid goroesi arno i bawb, heb fod yn ddibynnol ar os ydynt mewn gwaith neu beidio. Mae 500 o academyddion ar draws y byd wedi arwyddo llythyr yn galw am hyn fel ymateb i Coronafeirws, ond mae ymgyrch o'i blaid yn ystyried y byddai'n syniad da beth bynnag, ac y byddai'n costio llai na'r system budd-daliadau presennol i'w weithredu. Gellid dychmygu y byddai rhywbeth fel hyn yn help wrth i boblogaeth y byd odde'r sioc o newid o un system economaidd i fodel newydd, fel y bydd angen gwneud os am fynd i'r afael a newid hinsawdd.


Y prif wahaniaeth rhwng Coronafeirws a Newid Hinsawdd yw bod Coronafeirws wedi cyrraedd, mae beth sy'n digwydd rŵan yn fater o geisio lliniaru ei effeithiau. Tra bod Newid Hinsawdd wedi dechrau'n barod, mae beth sy'n digwydd nesaf yn dibynnu'n hollol ar sut mae pobl y byd, gan gynnwys llywodraethau, diwydiannau ac unigolion yn dewis ei wneud nesaf. Gallwn barhau i allyrru nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer, gan sicrhau dinistr ar raddfa eang dros rannau helaeth o'r byd, gan beryglu ein dyfodol ein hunain. Neu gallwn leihau ac yna rhoi'r gorau i allyriadau nwyon tŷ gwydr ac atal yr effeithiau gwaethaf sydd eto i ddod, gan sicrhau dyfodol i ni'n hunain a'n disgynyddion ar y blaned hon.






2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page