top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ysgrif: Bwyta'n geiriau - Carwyn Graves

Ymddiheuriadau: mae’n bosib y bydd y darn hwn yn llai ystyrlon i’r sawl sydd wedi cyrraedd oed yr addewid. Byddai diddordeb gen i mewn clywed eich sylwadau os felly.

Fe’n dieithriwyd oddiwrth ein bwyd. Gwyddom hynny mewn sawl ffordd, bid siŵr: gwyddom am yr ystadegau am ordewdra a chlefyd y siwgr; gwyddom am yr anghyfartaledd cymdeithasol rhemp sy’n golygu bod ansawdd bwyd y dosbarth canol gymaint yn well nag eiddo’r tlodion; gwyddom ar ryw lefel bod system yr hysbysebwyr aml-wladol a’r cewri archfarchnadaidd yn anghynaladwy; gwyddom fod yna broblem(au?).

Ond fe’n dieithriwyd oddiwrth ein bwyd fel Cymry hefyd. Hawdd cymryd unrhyw bwnc a rhoi rhyw wedd Gymreig ffug-ddiddorol iddo – ond yn yr achos hwn, mae ychydig mwy o sylwedd i’r haeriad bod yna rywbeth lled-unigryw ym mhrofiad y Cymry. Oherwydd yn wahanol i genhedloedd eraill gorllewin Ewrop, a gollodd neu a gadwodd i wahanol raddau eu traddodiadau bwyd cynhenid, fe gollon ni hefyd ein geirfa.

Nid syndod o beth yw hi i iaith leiafrifol grebachu a cholli yn araf deg ei gallu i ddisgrifio yn fanwl agweddau a nodweddion ei chynefin; fe gofnodwyd hyn droeon ar draws y byd. Does dim syndod felly i’r Gymraeg fel y’i siaredid golli beth wmbreth o’i nodweddion gramadegol mwn canrif (gw. astudiaethau academaidd ar ramadeg Cymraeg llafar yn 1920 ac erbyn heddiw) nac ychwaith cymaint o’i geirfa. Wrth gwrs, cafwyd geiriau newydd a gwych hynny – y bws gwennol, y trydarfyd, arnofio, pili pala. A gwyddom oll am y frwydr a fu i ehangu peuoedd y Gymraeg o’r cartref a’r capel i’r ysgolion, y tonfeddi a bywyd cyhoeddus - bu’n rhaid wrth golledion yn y mân frwydrau er mwyn cael siawns o ennill y rhyfel.

Ond syndod o beth yw hi ein bod fel Cymry Cymraeg wedi colli yn y brwydro, nid yr eirfa i ddisgrifio ein cyrff - mae penelin, bys bach, arddwrn ac aeliau yn dal i fod ar dafodau pawb, on’d ydyn? (a hynny am yr ail dro ar ôl colli’r rheiny unwaith eisoes adeg yr oresgyniad Lladinaidd -ie, o’r Lladin y daw ‘braich’, ‘dolur’, ‘boch’, ‘barf’ a llawer mwy – gwnewch o hynny fel y mynnwch) ond yn hytrach yr eirfa i ddisgrifio ein bwydydd. Oherwydd, er bod digon o eiriau Cymraeg am fwydydd yn dal i gael eu defnyddio yn feunydd yn ein hiaith, dim ond y termau mwyaf cyffredinol o blith trwch o eiriau penodol iawn a oroesodd hyd heddiw.

Dechreuwn ar y ford frecwast: yma, mae’r iaith ar yr olwg gyntaf weld yn weddol iach. Ceir llaeth/ llefrith, bara, menyn ac efallai mêl neu uwd ar y ford. Gallwn ddisgrifio pryd pwysica’r dydd yn ein hiaith ein hun, fel gwnaeth ein cyndeidiau. Braf.

Ond yna down at ginio. Mae’n ddydd Sul, ac mae Mam-gu wedi paratoi gwledd: tato wedi masho, grefi, styffing a biff, ac yna moron, sbrowts, cabetsh a swêd ar yr ochr. Efallai taw stecen sydd i ni yr wythnos hon, a phorc wythnos diwetha. Bydd Dad yn helpu gweini’r llysiau o’r stock pot a’u rhoi ar ein platiau (sy’n eistedd ar fatiau) ac o’r jwg yr arllwyswn ddŵr neu gwrw i’n gwydrau. Iawn.

Beth am i ni wedyn geisio’n galetach i ddisgrifio’r broses o baratoi bwyd? Paratoi tato at y pryd, er enghraifft. Rhaid ‘tynnu croen’ y tato – eu..... plicio, ai e? (neu hwyrach eu ‘peelio’ nhw…). Yna defnyddio ..... mutrwr tatws (neu pwnner/ mopran/ stwnsher) ac ychwanegu llaeth a menyn meddal (ond ‘menyn di-halen’ sydd ar y pecyn yn Morrisons?) cyn creu’r stwnsh/ mwtrin/ potsh. Rhaid gweini’r pryd gyda grefi, felly cymerwn stock cube er mwyn gwneud stock…..isgell, ai e? Yna estyn am y lletwad o’r car llwyau ac arllwys y grefi dros y pryd. Yna ei dodi yn ôl wrth ymyl y grafell a’r llwyarn.

Ar ôl cinio awn allan i’r ardd, lle gwelwn y coed yn pingo dan eu cnwd o afalau – Pen Caled, Brith Mawr a’u tebyg, troi am yr eirin Mair, y cwrens duon ac yna mynd i eistedd dan gysgod dwy goeden urddasol o anferth – yr ellygen a’r fyrtwydden (=mulberry). Mwynheuwn edrych allan dros yr ardd lysiau gyda’i rhesi twt o jibwns, erfin a betys.

Nid gair gwneud yw’r un o’r rhain – na geiriau hyfryd diflanedig Geiriadur Prifysgol Cymru. Geiriau Cymraeg llafar a’u harddelid yn gyffredin hyd 60au’r ganrif diwetha a’r tu hwnt ydyn nhw bron i gyd. A geiriau – detholiad bychan o blith dwsinau a dwsinau y gellid bod wedi eu dewis – a ddiflannodd ar y cyfan o’n genau. Geiriau ydyn nhw yn perthyn i holl beuoedd bwyd yn ein bywydau: yr ardd, y gegin a’r ford fwyta. Yn enwau ar fwydydd, enwau ar offer, berfau am brosesau paratoi bwyd, ac yn fesurau am fwyd neu ddiod, mae eu hamrywiaeth yn eang.

Wrth gwrs bu newid sylweddol i’n deiet – daeth lliaws anfesuradwy o fwydydd newydd i’n tai trwy gyfrwng yr archfarchnadoedd, ac ni ellid bod wedi eu henwi i gyd (oni bai bod yr archfarchnadoedd wedi gwneud, ac fe gymerasai gwmni cynhenid Cymraeg i hyd yn oed fentro i wneud hynny). Collasom hefyd lawer o’r hen fwydydd ac arferion – yn droliod ac yn sucan, yn gawl twymo a hela’r dryw. Ond rhyfedd o beth ein bod, am yr hyn a arhosodd yr un fath, rywsut wedi colli’r geiriau.

Ac wrth ein bod wedi colli’r arfer o’u harddel, collasom un agwedd ar y gallu cynhenid i fyw mewn perthynas uniongyrchol gyda’n bwyd; trwy fethu disgrifio yn fanwl yn ein hiaith ein hun yr hyn a wnawn gyda rhyw fesur arbennig o ryw gynhwysyn neu gilydd, ac union enw’r cynhwysyn hwnnw wedyn, codir gwahanfur anweledig rhyngom a’r hyn a lyncwn. Collir y neilltuol wrth i bob peth fynd yn ‘rhan’ neu’n ‘ddarn’ o fwyd (ac nid ‘cwlffyn’ neu ‘printan’ ); stryffaglwn am eiriau i gyfarwyddo’n plant sut mae gwneud hyn a hyn; cyffredinolir; collwn linyn cyswllt â’r gorffennol wrth i’n hymborth ddim llai na’n caeau golli ei hen hunaniaeth.

Pa bwysigrwydd hyn oll? Dim ond bod diwylliant bwyd yn rhywbeth a fu’n amlwg am ei absenoldeb yn ein plith, a bod seiliau bywyd da i’w cael mewn bwyd, ymhlith pethau eraill. Os hoffem weld gwerthfawrogi ar fwyd – ei fwynhau, ei rannu gyda phawb -, ac yna gweld cyfiawnder bwyd o fewn ein cymdeithas, nid gwael o beth fyddai i ni ddechrau wrth ein traed – gan enwi’r holl fwydydd hynny y gallwn yn ein hiaith ein hun, a’r ffyrdd o’u paratoi, a’u bwyta.

Mynegai cryno o eiriau defnyddir uchod

mwtrin/ stwnsh / potsh – tato wedi eu masho

pingo – pan fo coeden ffrwythau yn drwm dan ffrwythau

plicio – to peel

pwnner/ mopran/ stwnsher – masher tatws

menyn meddal – menyn heb halen

eirin Mair – gwsberis

gellyg – peren/ pear

myrtwydd – mulberry (hefyd: merysen)

crafell – spatula

isgell – stock cig

lletwad – ladle

llwyarn – (apple) corer

car llwyau – spoon rack

cwlffyn – chunk o fara

printan – lwmpyn neu ‘darn’ o fenyn

Afal Pen Caled/ Brith Mawr – mathau traddodiadol Cymreig o afal, y naill yn afal bwyta o Landudoch a’r llall yn afal bwyta o wastadeddau Gwent.

troliod - dumpling

sucan - flummery

Noder: ceir cyfoeth o eiriau tebyg yn ‘Geirfa’r Gegin’ ac ‘Amser Bwyd’ gan S. Minwel Tibbot, ac ar drywydd mwy garddwriaethol/ amaethyddol gweler ysgrifau Ffransis Payne yn ‘Cwysau’.

Cyhoeddodd Carwyn Graves y llyfr cyntaf yn Gymraeg ar hanes afalaidd ein gwlad yn 2018, ‘Afalau Cymru’, ac mae newydd orffen ail lyfr ar hanes bwydydd Cymru. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn diwylliant bwyd a’r cysylltiad rhwng bwyd, y dirwedd a diwylliant.

[Lluniau gan Grug Muse]

5 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page