top of page
Esyllt Lewis

Ysgrif: Ailystyried Rysáit Cariad - Megan Davies

Dwi wedi bod adre gyda mam a dad ers ychydig wythnosau. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, mae treulio oriau yn trafod beth i brynu yn y siop yn ysgogi mân gecru. Pwy sydd am fynd i siopa, faint o amser mae’r cyfan yn mynd i gymryd, beth i'w brynu os oes dim wyau a bara …

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein bywydau wedi newid.

Ac yn fy mywyd byr, dyw bwyd byth wedi cael ei ystyried yn rhodd foethus. Dwi wedi fy magu yn cymryd e’n ganiataol y bydd pentyrrau o ddanteithion ar ein platiau a mwy o bethau ar gael yn yr archfarchnad unwaith ein bod ni wedi lwffian y cyfan sydd yn ein cypyrddau.

Mae pethau wedi newid.

Nid yw hi’n or-ddramatig i ddweud mai nawr ydy’r cyfnod mwyaf digynsail i’r wlad ei brofi ers degawdau. Rydym yn cael ein herio. Yn y diwrnodau di-ddigwyddiad sydd yn ymestyn o’n blaenau, rydym yn cael ein gwahodd i ystyried y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Cymaint rydym wedi cymryd yn ganiataol ers tro. Cymaint o lwc oedd gennym ni am flynyddoedd. Rydym yn cael ein gorfodi i ystyried sut beth yw bywyd bob dydd i’r rheiny sydd yn pryderu am allu prynu tuniau o ffa pob. Rydym yn cael ein gorfodi i ddeall sut fywyd sydd gan y bobl sydd yn profi unigrwydd am wythnosau ar y tro. Rydym yn cael ein gorfodi i ofyn y cwestiwn: beth yw ystyr bywyd da?

Yn ôl yr artist, David Hockney, yr unig beth ‘gwir’ mewn bywyd ydy bwyd a chariad. Er fy mod yn cytuno gyda Mr Hockney, dwi o’r farn ein bod ni’n gallu gwthio’r syniad ymhellach. Bwyd ydy cariad.

Gyda lluniau o bobl ar ein teledu yn gwthio a hwffio ei gilydd yn yr archfarchnadoedd i gael y bagiau olaf o basta, byddai'n hawdd gweld y bobl yma fel ymgorfforiad o hunanoldeb. Ie, ’falle wir, mae’n rhaid bod rhai ohonyn nhw yn hunanol. Ond, tu hwnt i’r aeliau chwyslyd, dwi’n credu taw cariad sydd wrth wraidd ymddygiad y bobl yma. Oherwydd, mae gallu cynnig plât o rywbeth twym a blasus i rywun yn ystod cyfnod mor drawmatig megis hud a lledrith. Heb ddweud gair, mae cynnig rhywbeth maethlon yn dweud cymaint.

Dyw clymu bwyd gydag emosiynau ddim yn gysyniad newydd. Mae yna bentwr o lyfrau gan seicolegwyr sydd yn ysgrifennu yn ddi-baid am sut rydym yn cysylltu ein teimladau gyda’r hyn rydym yn ei roi yn ein cegau. Un sydd yn gwybod yn iawn am hynny ydy’r newyddiadurwraig, Ruby Tandoh. Yn ei chofiant Eat Up, mae Tandoh yn sôn am ei hanhwylderau bwyta. Er mor ddifrifol yw ei phroblemau, nid llyfr am anorecsia neu bwlimia mo hwn. Na, y thema o’r pwys mwyaf ydy cariad. Oherwydd, trwy feithrin o’r newydd ei pherthynas gyda bwyd, mae hi’n dysgu sut i garu ei hun unwaith eto. Iddi hi, mae bwyta prydau a’u mwynhau nhw yn anfon neges i’r byd: mae ganddi’r hawl i faeth a phleser a melyster.

Yn fy marn i, pwysicach fyth ydy’r ffordd mae Tandoh yn ysgrifennu am y bwyd y mae hi’n ei baratoi i’w chariad. Mae hi’n sôn yn fanwl am yr hyn mae hi’n coginio pan fo’i chariad yn dost. Blas a maeth ydy sail y bwyd. Wrth roi’r pryd iddi, mae Tandoh yn cyfathrebu’r neges ei bod am iddi wella. Mae pob cynhwysyn yn y rysáit yn symboleiddio emosiwn. Eto, ymgorfforiad o gariad yw’r platiau mae hi’n eu paratoi.

Gyda chymaint o’n traddodiadau blynyddol yn cael eu canslo a rhestr hir o’n dathliadau yn cael eu diddymu o’n dyddiaduron, mae gan fwyd mwy o bŵer nag erioed o’r blaen. Oherwydd, os oes misoedd o hunan-ynysu ar y gorwel i ni, mi fydd bwyd yn cynnig ffordd o farcio'r hyn sy’n bwysig yn ein bywydau.

Os ydym yn ddigon ffodus i allu ’neud, ni fydd gweithred mwy caredig na choginio cacen pen-blwydd i’n cymydog. Mae gadael lasagne ar stepen drws ein ffrindiau gorau yn y cyfnod hwn megis taflu ein breichiau o’u hamgylch o bellter. Ond yn fwy hunanol byth, mae treulio prynhawn yn coginio picau ar hen faen mam-gu yn ein cysylltu â hanes ein teulu tra’n ymdawelu ein meddyliau tywyll. Gwell fyth ydy lapio’r patis bach o siwgr a sbeis gyda rhuban bach a gadael parsel i rywun ar eich stryd ’da chi byth yn siarad â nhw fel arfer. Dyma gariad.

Tra ein bod yn dyheu am ddiwrnodau llawn heulwen, picnics ar y lawnt a gwydrau sydd yn gorlifo gyda Aperol Spritz, mae yna gyfle gyda ni i ail-ddarganfod yr elfen o seremoni yn ein prydau adre. Nid fel dalfa y dylai ein cartrefi ymddangos dros yr wythnosau nesaf. Mae amser i goginio a blasu a rhannu a gwerthfawrogi yn fendith.

Yn ei llyfr The Year of Magical Thinking, mae’r awdur Joan Didion yn colli ei chariad yn sgil trawiad ar y galon. Ddiwrnodau cyn iddo farw, mae Didion yn rhostio ffowlyn ac yn treulio amser yn gosod y bwrdd iddyn nhw fwynhau wrth ymyl y tân. Trwy gydol y llyfr, dyma’r ddelwedd sydd yn ei haflonyddu hi. Dyma’r peth olaf roedd hi’n gallu gwneud i’w chariad hi.

Pa beth gwell mewn bywyd nag ymdrechu i allu cynnig rhywbeth pleserus i rywun rydych yn eu caru?

Cymerwch eich platiau posh a gosodwch y bwrdd. Gwisgwch eich lipstic coch. Gwahoddwch eich rhieni i dinner date anarferol dros Facetime. Gwleddwch ar y bwyd sydd gyda ni megis anrheg. Brwydrwch dros y pleser sydd ar gael o fewn waliau ein cartrefi. Mewn cyfnod o ryfel ac argyfwng, mae wastad rheswm i ddathlu yn lle cecru.

*************

Dilynwch Megan ar

twitter + instagram: @megandaviesnews

Gwaith celf: @darlun_y_dydd

3 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page