top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Ysgrif: Amser Bwyd yn Archif Sain Ffagan - Mared McAleavey


Minwel Tibbott ar waith maes ym Mhentyrch ym 1970 (Amgueddfa Cymru)

Wrth i ni dreulio mwy o amser yn ein cartrefi, mae nifer sylweddol ohonom yn troi at goginio a phobi fel noddfa yn y cyfnod dyrys hwn. Mae’n gyfle i fod yn anturus wrth arbrofi gyda ryseitiau newydd, neu i dderbyn lloches drwy ail-greu bwydydd cysurlon ein plentyndod.

Wyddoch chi fod archif helaeth o ryseitiau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru? Mae’r mwyafrif ohonynt yn gyfarwyddiadau a drosglwyddwyd ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth. Casglwyd y wybodaeth drwy gyfrwng holiaduron, llythyrau a ryseitiau ysgrifenedig. Ond crynswth y casgliad yw gwaith maes Minwel Tibbott.

Yr Archif

Agorodd Sain Ffagan ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym 1948. Dyma oedd amgueddfa awyr agored cyntaf y Deyrnas Unedig. O’r cychwyn cyntaf, bu’n torri cwys newydd drwy gofnodi, casglu, astudio ac arddangos agweddau o fwyd gwerin Cymru.

Yn dilyn apêl radio am arian i brynu offer recordio ym 1958, daeth cyfle i gasglu hanes llafar. Penodwyd staff i deithio i bob cwr o Gymru i holi a recordio trigolion yn trafod pob agwedd o fywyd gwerin, megis tafodieithoedd, llên gwerin, chwaraeon, amaethyddiaeth a chrefftau, meddyginiaeth draddodiadol, canu gwerin, arferion traddodiadol ac wrth gwrs bwyd. Erbyn hyn mae bron i 12,000 o recordiadau yn y casgliad, gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer unrhyw ymchwilydd.

Teithiai’r staff ar draws Cymru yn y Land Rover a’r carafán hwn (Amgueddfa Cymru)

Minwel Tibbott

Pan ddechreuodd Minwel Tibbott yn yr Amgueddfa ym 1969, maes hollol newydd oedd astudio bwydydd traddodiadol.

Roedd dyfodiad rhewfwyd a rhewgelloedd, y bwyd tun a chyfleusterau modern i’r cartref wedi newid patrwm byw a bwyta yn llwyr, ac ofnai Minwel fod peryg i ni anghofio a cholli bwydydd fu’n cynnal y genhedlaeth a fu. Felly, fel amryw o’r staff, teithiodd ar hyd a lled Cymru yn y Land Rover yn holi, recordio a ffilmio’r to hynaf o wragedd, y mwyafrif ohonynt yn eu hwythdegau. Roedd eu hatgofion o’r prydau yn aml yn dyddio nôl i ddiwedd yr 1800au. Y bwydydd a baratoid yn gyson yn y cyfnod hwn yw’r rhai y cyfeirir atynt heddiw fel ‘bwydydd traddodiadol’ Cymru.

Drwy gasglu’r hanes llafar, daeth Minwel i glywed a chofnodi yr holl amrywiadau o ran paratoi a choginio yr un prydau ar draws y wlad, yn ogystal â’r termau amrywiol.

Rydym yn hynod o ddyledus iddi am ei gwaith arloesol, ac mae gennym dros 600 o’i recordiadau yn yr archif, yn ogystal â lluniau a ffilmiau a dynnodd i gofnodi’r prosesau yn ymwneud â pharatoi bwyd.

Ym 1974 cyhoeddwyd y gyfrol Amser Bwyd, sy’n ddetholiad o rai o’r cyfarwyddiadau a gasglwyd yn ystod ei gwaith maes. Ymddangosodd yr argraffiad Saesneg, dan y teitl Welsh Fare ym 1976. Mae’r ddwy gyfrol bellach wedi eu cyhoeddi ar safle we’r amgueddfa:

Ysgwn i a yw ambell un ohonynt yn codi awydd arnoch i fentro eu hail-greu, neu’n procio atgof yn eich cof o fwyd eich plentyndod? Cofiwch gysylltu i roi gwybod.

-----

Gallwch gysylltu â Mared McAleavey trwy fynd i @SF_Ystafelloedd ar Twitter.

5 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page