top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Rhyddiaith: Yr Afal o Enlli / Casglu Merllys Gwyllt - Siân Melangell Dafydd

Yr Afal o Enlli

Hoffwn adrodd hanes yr afal ac, wrth fynd ati, dwi’n credu na wnes i erioed ddisgrifio dim byd yn iawn. Afal ydi hwn sy’n troi’n ddu mewn eiliadau o’i dorri. Cnawd pinc o dan y croen, fel bod dim byd drwg fyth yn mynd i ddigwydd. Ond heno, â gwres y dydd yn y casgliad o afalau a chnau ar fwrdd y gegin, dyma dwi eisiau ei ddisgrifio ond mae canu grwndi’r babi yn torri ar fy nhraws, a’r peiriant golchi a’r joy-rider r’ochr arall i’r afon, a sŵn y babi eto, yn drwm, yn llawn cân. Dwi awydd disgrifio’r babi, dwi awydd disgrifio pob manylyn o’r babi i unrhyw un sy’n fodlon gwrando. Mae hyn yn mynd â mi mor ddwfn i mewn i mi fy hun fel bod y noson anghyfarwydd yma o Hydref yn eiriasboeth o rywbeth na fedra i ei enwi. Mae ofn ynddo yn rhywle. A’r prynhawn yma, wrth gerdded drwy’r ardd, brathais afal ynys Enlli, y gyntaf un erioed o’r goeden ifanc. Am ryw reswm, rhoddais o wedyn at ei wefus. Ei fwyd cyntaf. Dyma yw’r foment pan newidia popeth, y foment yma hefo un afal o le sanctaidd. Llyncais innau wrth feddwl na fyddai, o’r foment honno rhwng y coed, wedi ei wneud yn llwyr ohona’ i. Bodlonodd efo’r peth newydd. Sugnodd i gychwyn, cyn gwthio’r tamaid bach allan o’i geg.

*

Casglu merllys gwyllt

Deg wy mewn bocs esgidiau – wyau fydd yn troi’r biscotti’n or-felyn yfory. Mae’r deg yn eistedd mewn gwely meddal o asparagi selvatici – beth? Mewn merllys gwyllt. Beth? Asparagus. Gwyllt. Mwy o flodyn yr olwg na llysieuyn. Dychmygwch glychau’r gog heb y glas – yn wyrdd i gyd. Ond peidiwch mynd ar gyfyl bwyta’r rheiny! Dychymyg yw hyn ... a phen y blodyn yn gwyro i’r wyau. Anghofiwch olwg a blas merllys siop, hyd yn oed y rhai mwyaf igam-ogam yr olwg. Tyfiant gwahanol yw hwn.

Dewch i fyny tu hwnt i le mae’r ffyrdd yn darmac, heibio gormod o drofeydd i’w cofio, o Pieve di Soligo ac i fyny. Pre-Alpi, ie. Caeau gwinllannoedd yn creu patrwm Mondrian o’r mynyddoedd.

Doedd gen i ddim syniad lle’r oeddwn i, ac allwn i fyth ffeindio’r lle eto. Coedwig, llethr, y math o le fyddai rhywun yn disgwyl madarch ond roedd hi’n fis Mai. Mae’r merllys yma mor denau fel nad ydyn nhw’n cuddio bron ddim o lawr y goedwig, ac felly’n amhosib eu gweld tan i rywun wneud i mi edrych eildro hefo ecco, ecco, ecco qui! Wedyn mae’n nhw yn eu cannoedd, yn rhan o wead daear, yn frwshys paent hyd y lle.

Casglais lond bocs hefo Bruno, ac yntau’n flin hefo fi ond eto eisiau i mi gael profi beth oedd o’n ei ystyried yn wyrth flynyddol o’r mynydd. Blin ’mod i’n ymarfer yoga oedd o, yntau mor ystyfnig a finnau. Ond roedd merllys. A dail llithrig, a dwylo Bruno’n ormod o rawiau dyn-y-tir i drin pethau mor fân, neu dyna feddyliais. Fo lanwodd y bocs a rhoddais innau dusw bychan ynddo. Fo wyddai pa mor afiach oedd eu blas yn amrwd, sawl munud mewn dŵr berwedig oedd ei angen. Olew, pinsiad o halen, basta, bwyta. Y bonion mewn brodo yfory, i wneud risotto, gyda’r biscotti gor-felyn i bwdin. Dyna’r drafferth hefo ieir hapus, medd Bruno. Mi fydd biscotti yfory bob amser yn or-felyn.

-----

Lluniau: Dot Tyne (Afalau Enlli), Siân Melangell Dafydd (Merllys)

3 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page