top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Ysgrif: Ymbentrefoli - Morgan Owen


Ar un o’r welydd yn nhŷ fy mam-gu, mae print o ryw baentiad sy’n dangos ‘Arloeswyr’ (bondigrybwyll) y Gorllewin Gwyllt yn mentro gyda’u wagenni trwy fwlch yn y mynyddoedd yn ystod storm eira. Mor ddistadl yw’r ychydig olau a deifl eu llusernau, ac mae golwg erlidiedig ond herfeiddiol ar eu hwynebau, fel pe na baent yn gwybod beth i’w ddisgwyl rownd y gornel.

Rhan o frithwaith o ddylanwadau tebyg o du mytholeg boblogaidd America ar fy mebyd yw y llun hwn. Prif waddol y dylanwadau hyn yw fy mod yn ymdeimlo o dro i dro â math neilltuol o bentrefolrwydd. Hynny yw, teimlad o arwahanrwydd pentrefol ynghanol ehangder mawr. Profais hyn lawer o weithiau yn fachgen ac yn llanc, ond geilw’r pentref rhithiol arnaf o bell hyd heddiw.

Ardal drefol fawr yw Merthyr, wrth gwrs, ond yn ei hehangder bydd hi weithiau yn ymgrynhoi nes teimlo fel rhywbeth y gellir ei gymryd i mewn a’i ddeall ar drawiad. Nid rhywbeth i’w ddadansoddi yw’r teimlad disymwth hwn, am ei fod mor reddfol a gwibiol.

Tua diwedd mis Chwefror, deffrois i fore llachar a chlir, a’r llacharedd mor bur fel ag i awgrymu rhywbeth arall, elfen ychwanegol yn y clirder a’r puredd. Ac yna cofiais fod eira ar lawr, a gwelais wedyn fod argaen newydd o farrug ac iâ yn gwynnu ac yn gloywi’r dref a phopeth o’i hamgylch. Yn y golau rhyfeddol hwn, a’r oerni fel petai’n estyniad ar y golau, fel pe bawn yn gallu teimlo’r golau ar fy nghroen ac yn nwfn fy ysgyfaint eiddgar, dyfnhawyd pob lliw. Roeddent mor ddwfn ac awchus fel taw anodd ar brydiau oedd credu eu bod yn real o gwbl.

Ar ôl ymweld â chanol y dref, a’i phrysurdeb anarferol, cefais flas ar fod yn rhan o’r cyfan. Yn hytrach na throi yn ôl am y tŷ, es i lan y bryn trwy Dwynyrodyn. Yn ychwanegol at y syndod boreol, sylwais ar bethau nas gwelais erioed o’r blaen yn y lle cyfarwydd hwn, fel rhes o hen fythynnod y tu cefn i gapel gwag a lled-adfeiliog, heb sôn am y lonydd y tu ôl i’r strydoedd bach cul sy’n canghennu oddi ar y brif hewl tua’r top.

Euthum heibio’r rhain, a mynd heibio i ambell stryd a oedd yn gyfarwydd iawn imi ar un adeg ffurfiol yn fy mywyd, ond sydd bellach yn debyg i’r llefydd hynny y bydd rhywun yn ail-ymweld â nhw mewn breuddwydion, a’r cymysgwch o led-gynefinoldeb a dieithrwch yn drysu a chyfareddu i’r un graddau.

Ond buan y pasiodd. Euthum yn fy mlaen i’r inclên: Incline Top. Dyma ryw lwyfandir rhwng tai teras ar un ochr, a stad o dai cyngor ar y llall. Dirwyna i lawr i ran o’r dref nid nepell o’r canol, yn agos i rywle lle’r oeddwn yn byw: Clare Street. Stryd hirsyth o dai teras ar wastad y cwm; stryd sy’n dal i ymddangos yn fy mreuddwydion, weithiau. A chan fod y cwm hwn mor llydan, mae’r golygfeydd o’r fan hon yn eang iawn; ac i’r gogledd, saif y Bannau fel ymwthiadau o fyd arall.

Dyna lle’r oeddwn, ar yr inclên eiraog: dychweledig yn arolygu tirwedd ei orffennol ac amchwaraefa ei fytholeg bersonol. Cyrcydais i geisio sgwennu a dal peth o’r byd gloyw hwn yn fy nodlyfr.

Y pryd hwnnw, ymdeimlais â’r pentref: ymbentrefolais. A minnau rhwng cynifer o lefydd cyfarwydd, crebachodd y cyfan am eiliad. Sefais dan gysgod y mynyddoedd, mewn tref llawn ffiniau, a chofiais am y llun ar wal fy mam gu. Torrais innau fy ffordd.

*

Dechrau Gorffennaf. Roedd hi’n noson glir a di-awel o haf wedi diwrnod di-gynnwrf. Yn gynt yn y dydd, oferasid popeth gan y gwres, ond wedi hir aros, roedd ei fin wedi pylu. Erbyn hanner awr wedi deg o’r gloch, dechreuodd ymdeimlad o ehangder gwasgarog fy meddiannu, a’m gwahodd i adael y tŷ i grwydro wrthyf fy hun. Nid oedd hi’n oer, ychwaith, ond digon cyffyrddus i fentro i’r nos.

Gwynlas anarferol oedd yr awyr tua’r gorllewin, lliw trydanol. Parodd yn hir, a heb edwi hyd yn oed wrth fod canol nos agosáu.

Oherwydd y diffyg awel, gallwn glywed popeth yn gliriach, a lleisiau yn enwedig. Roedd hi’n noson llawn pobl, fel petai’r nos ei hun yn bentref diriaethol. Denwyd pobl i’w gerddi gan yr hefin, ac wrth imi gychwyn i fyny’r bryn trwy Heolgerrig ar hyd y ‘brif’ hewl, nid oeddwn yn teimlo fy mod yn rhodio wrthyf fy hun. Ni allwn weld pwy oedd yn llefaru, ond roeddwn rywsut yn gyfrannog yn eu hymddiddan.

Weithiau, deuwn yn ymwybodol o fwlch mewn sgwrs wrth basio oherwydd arogl sigarét neu sŵn gwydrau’n symud, pan oedd rhywrai’n ymbalfalu am air, neu’n cymryd saib er mwyn ymgolli yn y nos. Teimlai honno o hyd fel gwagle a gorchudd yr un pryd, ond p’un bynnag oedd hi, clymai bopeth ynghyd, yn wead o eiriau a chyd-ymgolliadau.

Fel hyn y profais ymdeimlad o berthyn, er fy mod yn cerdded yn y tywyllwch trwy Heolgerrig. Euthum y ffordd hir adref, gan ymwau drwy’r ochr-strydoedd, nes bod y sgyrsiau ar y cyfan wedi cilio. Dim ond sêr a thawelwch oedd fy rhan wedi hynny. Rhythodd y nos i bob cilfach, a dychwelais i’r tŷ i ddeor syndodau. Ar yr union adegau hyn y bydd cerdd sydd wedi aros fel braslun neu amlinell yn fy mhen yn ymaflyd mewn geiriau. Lle ffrwythlon yw’r nos pan fo’r hefin yn mrig ei nerth.

-----

Gallwch wrando ar addasiad o'r ysgrif uchod ar bodlediad Cawl Mympwy yma:

8 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page