top of page
Esyllt Lewis

Ysgrif: Llefrith neu Laeth? - Elin Arfon


Pan ddeallais fod Y Stamp yn trafod y thema cyfieithu ym mis Mehefin, meddyliais y byddai modd imi gyfrannu at y drafodaeth. Rwy’n fyfyriwr doethurol yn archwilio’r maes dysgu ieithoedd. Teimlaf, felly, fy mod i’n gwybod ychydig am ddealltwriaeth academaidd o'r gair cyfieithu yn y cyd-destun addysgol. Ond wedyn, dyma ofyn cwestiwn arall i mi fy hun. Beth yw hanfod cyfieithu i ti, Elin?

Pe bai rhywun wedi gofyn imi ryw ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai fy ateb yn ddigon syml: ‘cyfieithu yw mynd o un iaith i’r llall’. Byddwn i wedi bod yn hyderus wrth ateb hefyd. Ond, wedi astudio Cymraeg a Ffrangeg yn y brifysgol, a pharhau ar y trywydd ieithyddol wedi hynny, nid yw fy ateb bellach mor bendant. Mae fy ateb yn parhau i newid gyda bob myfyrdod ...

Rwy’n cofio, rhyw ddwy flynedd yn ôl, bod yn rhan o weithdy ieithoedd i ddisgyblion uwchradd. Cyfieithu oedd testun y gweithdy, ac roedd fy nghydweithiwr yn trafod ystyr y gair. Dechreuodd y gweithdy drwy gyfieithu 'shwmae' a 'hello' o’r Gymraeg a’r Saesneg i 'bonjour', 'مرحبا', 'hola' – mae’r rhestr, wrth gwrs, yn un go hir. Wedyn, dyma ddechrau trafod y cysyniad o gyfieithu o fewn yr un iaith. Ddarllenwyr, cyfieithwch y gair Saesneg 'dog' i eiriau eraill yn y Saesneg ...

... 'pooch', 'pug', 'hound', a 'puppy' oedd rhai o atebion y disgyblion. Dechreuais innau feddwl wedyn am y cwestiwn oesol hwnnw – llefrith neu laeth? Llefrith wrth gwrs, fel un o Lanrwst. Felly mewn gweithdy i ryw 100 o ddisgyblion uwchradd, fi gafodd yr epiffani mwyaf: ydy, mae cyfieithu yn trosgynnu ffiniau traddodiadol gwahanol ieithoedd, ond ymddengys imi fod modd trosgynnu tafodieithoedd a gwahanol gyweiriau hefyd wrth gyfieithu. Acenion hyd yn oed, efallai?

Ac felly, dyma ddechrau meddwl yn fwy agored am hanfod y gair cyfieithu.

Yna yn ddiweddar, fel sawl un ohonoch dybiwn i, gwyliais y gyfres deledu Normal People sy’n seiliedig ar nofel Sally Rooney. Dyma ddechrau gwylio’r rhaglen ar y nos Sul, mynd i gynnwrf, ‘rhaid darllen y llyfr yn gyntaf siŵr’, darllen y llyfr, ac erbyn y penwythnos wedyn, gorffen y gyfres deledu. Gan fy mod i wedi darllen y llyfr a gwylio’r gyfres ar yr un pryd, gwelais hi’n anodd gwahaniaethu rhwng y ddau gyfrwng. ‘A oedd hyn wedi digwydd yn y llyfr? Oedd, nac oedd; o, dwi ddim yn cofio.’ Dyma ddechrau meddwl wedyn, onid cyfieithu a gafwyd yma rhwng dau gyfrwng, o’r nofel i’r gyfres deledu? Addasiad ac adaptation yw’r geiriau y'u defnyddir. Ond onid cyfieithu geiriau’r nofel i ddeialog deledu o fewn yr un iaith y cafwyd? Oni chafwyd cyfieithiad o fyd y llyfr a oedd yn fydoedd dychmygol gwahanol i bob darllenwr, i un byd dychmygol gweledol ar y sgrin a rannwyd gan bawb? Efallai’n wir.

Wrth feddwl am y 'pooch' a Normal People – cyfieithu rhwng ieithoedd, o fewn ieithoedd a thafodieithoedd, a rhwng gwahanol gyfryngau a chyweiriau – dyma ddod yn ôl at y byd academaidd a dechrau meddwl am fy ngwaith ymchwil. Yn ddiweddar, bûm yn pori drwy’r Cwricwlwm i Gymru 2022. Dyma’r cwricwlwm newydd y’i cyflwynir mewn ysgolion ar draws Gymru o 2022 ymlaen. Wrth edrych ar y ddogfen ddiweddaraf, dyma ddod ar draws gair y’i defnyddir yn aml yn y maes dysgu ieithoedd: cyfryngu / mediation. Yn y cwricwlwm newydd, diffinnir cyfryngu fel a ganlyn: ‘Cyfathrebu ystyr o un person i berson arall o fewn iaith (aralleirio, crynhoi) neu o un iaith i iaith arall (cyfieithu, dehongli)’ (Llywodraeth Cymru 2020, t. 246). Ymddengys i mi bod cyfieithu yn rhan o gyfryngu yma. Dyma feddwl wedyn am air arall yn y cwricwlwm newydd: trawsieithu / translanguaging. Dyma air â’i darddiad yn deillio o’r cyd-destun Cymraeg-Saesneg dwyieithog yng Nghymru, ond sydd bellach yn air sylfaenol yn y byd addysg iaith yn fyd-eang. Yn y cwricwlwm newydd, ceir y diffiniad: ‘Arfer addysgeg yw trawsieithu sy'n golygu symud rhwng dwy iaith ar gyfer mewnbwn ac allbwn yn yr un gweithgaredd. Mae'r dysgwr yn derbyn gwybodaeth mewn un iaith ac yn gweithio gyda'r wybodaeth honno mewn iaith arall’ (Llywodraeth Cymru 2020, t. 256).

Mae terminoleg megis cyfieithu, cyfryngu a thrawsieithu, er eu tebygrwydd weithiau, yn cynnig anturiaethau cyffrous a gwahanol iawn i mi fel un sydd wrth fy modd yn dysgu ac addysgu ieithoedd. Tybiaf ein bod yn y cyfnod TRAWSieithu, TRANSlation. Da hynny, yn fy marn i – ein bod mewn cyfnod lle y gellir derbyn nad oes rhaid i ffiniau ieithoedd fod mor statig. Tybiaf i fod y ffiniau yn fwy dynamig ac nad ydynt, weithiau, am fodoli o gwbl. Yn wir, gallaf i gyfieithu a chyfryngu a thrawsieithu a.y.y.b. o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Gallaf hefyd siarad Ffrangeg, a siarad Ffrangeg gyda thafodiaith Québec gan imi dreulio fy mlwyddyn dramor gyda’r brifysgol yno. Rwy’n cofio bod mewn bwyty yn Québec unwaith, a gofyn am blatiad o deis (cravates) yn lle gofyn am blatiad o gorgimwch (crevettes). Rwyf hefyd yn siarad rhyw ychydig o Sbaeneg a ddysgais mewn cwrs nos ryw ychydig flynyddoedd yn ôl. Rwyf wedi anghofio llawer o’r Sbaeneg cwrs-nos hwnnw bellach ond rwyf wedi bod yn ailddysgu’r iaith yn y cyfnod hwn o fod mewn lockdown. Mynychais ambell wers Wyddeleg yn yr ail flwyddyn yn y brifysgol, ac rwy’n cofio sut i ynganu’r gair am chwaer, ond nid allaf ei ysgrifennu: deirfiúr. Rwyf hefyd yn gwybod sut i ddweud helo yn y Bwyleg – cześć – ac adnabod y geiriau am helo mewn sawl iaith arall er nad allaf eu cofio heb eu clywed, a hynny wedi i mi fod ynghlwm â phrosiectau yn y brifysgol yn cydweithio ag ysgolion uwchradd. Rwy’n lluosieithog / plurilingual, dybiwn i, gan fod fy medr ym mhob un o’m hieithoedd yn wahanol, ac rwy’n gadael i’m hieithoedd gydblethu pan mae hyn yn fy helpu i gyfathrebu. I mi, mae hynny yn anrheg greadigol iawn! Let us dance in the in-between – oni ellir perthyn i wahanol gymunedau ieithyddol, yn ogystal â pherthyn rhyngddynt? Onid yw hynny'n anrheg i’w rhannu â phawb?

Llefrith neu laeth?

Llefrith, nid af i newid fy meddwl am hynny. Ond wrth feddwl am hanfod y gair cyfieithu i mi yn bersonol, mae fy ateb i yn rhywle rhwng 'pooch', Normal People, y cwricwlwm newydd a gofyn am lond platiad o deis. Gofynnwch imi'r wythnos nesaf beth yw fy nealltwriaeth i o’r gair cyfieithu, ac mae'n debygol y byddaf wedi newid fy meddwl unwaith eto. Ond dyna ni, dyna yw hanfod cyfieithu a thermau tebyg i mi o ran iaith: newid / esblygu / (ail)-ddyfod.

-----

Llywodraeth Cymru. 2020. Canllawiau cwricwlwm i Gymru. Ar gael: https://hwb.gov.wales/api/storage/b0e91f7c-0050-47b6-9b23-0273d39df9f3/canllawiau-cwricwlwm-i-gymru-070220.pdf [Cyrchwyd: 6 Mehefin 2020].


7 views0 comments
bottom of page