Mae hen, hen lawysgrif yn nyfnderoedd archifau’r brifysgol sydd heb ei gatalogio.
Ar gam y dois i ar ei draws o. Roedd y llyfr wedi ei guddio rhwng dwy gyfrol gyfraith ganoloesol. Llithrodd fy mys ar hap dros yr asgwrn cefn a theimlais ryw drydan yn crynu drwof am eiliad. Wedi saib, tynnais y llyfr yn ofalus oddi ar y silff. Cyfrol fach; bu’r clawr yn las, unwaith – ond roedd y tudalennau’n hŷn na’r clawr. Felwm bregus brown-felyn oedden nhw. Agorais y llyfr yn betrus.
Roedd natur od i’r lawysgrifen. Pob llythyren bitw yn ei lle a phob llinell yn ddestlus, ond roedd rhyw frys i’r ysgrifennu, fel pe bai’r awdur am i’r geiriau gyrraedd y dudalen cyn iddo eu anghofio. Craffais, a dechreuais ddarllen.
Cefais arswyd wrth weld y geiriau agoriadol: Lymma ceinc kentau y mapinogi... – ‘dyma gainc gyntaf...’ Wrth i’m llygaid rasio i lawr y dudalen, deallais fod yma grair – testun llawer cynharach o bedair cainc y Mabinogi nag oedd yn hysbys! O’r ddegfed ganrif, efallai? Yn llawer hŷn na Llyfr Gwyn Rhydderch, heb os. Roedd yma ddarganfyddiad pwysig, enfawr, a newidiai drywydd ysgolheictod. Y Llyfr Glas! Pam felly ei fod wedi ei guddio ar silff dywyll?
“Don’t read it,” meddai llais o’r tu ôl i mi; yna, “plîs peidiwch.” Trois, gan ateb yn syth yn Gymraeg. Llyncodd fy ngwddw fy ngeiriau i. Safai archifydd yno: hen ddyn bychan moel â sbectol gron. Roedd ei wyneb mor welw – fel memrwn dros hen asgwrn – nes i mi bron ac ebychu. Roedd y llygaid tu hwnt i’w sbectol yn llwydgoch, fel rhywun na welai gwsg na gorffwys.
Anadlais yn ddwfn cyn gofyn, “Pam lai?”
Llwybreiddiodd y gŵr tuag ata i. Rhoddodd law grychlyd dros dudalennau’r llyfr glas i’w masgio rhagof. “Mae hwn yn rhy hen,” meddai’n floesg, y geiriau’n dod yn anodd iddo, ei lygaid yn sodro i’m rhai i. “Chymrodd yr awdur ddim… ddim gofal wrth drosi’r chwedlau. Mae angen niwl y canrifoedd i dynnu’r min oddi ar y cymeriadau, welwch-chi, er mwyn nadu…”
Wfftiais o’n syth, yn fy ieuenctid. “Mae hwn o bwys mawr,” meddais yn bigog, “ac mae angen ei olygu a’i gyhoeddi o.” Tynnais y llyfr ataf a’i wasgu at fy mrest. Agorodd yr archifydd ei geg i ddweud mwy, ond yna aeth yn fud. Llithrodd o’r ystafell a’i wyneb yn llesg.
Anghofiais amdano’n syth. Yn llawn adrenalin, darllenais ymlaen drwy’r llyfr. Hen Gymraeg oedd yr iaith, a gwelwn yma gynseiliau’r ffurfiau gramadegol ac ymadroddion hyfryd oedd yn gwbl adnabyddus i mi o’r llawysgrifau hwyrach. Am gyffro! Crynai fy mysedd ac roeddwn yn ymwybodol o ’ngwefusau’n symud yn gyflym wrth fwmial-ddehongli’r geiriau cyntefig. Darllenais yn farus, hyd diwedd cainc Math fab Mathonwy, gan wisgo gwên letchwith.
Yna trois y dudalen, a diflannodd fy ngwên. Lymma dechreu pumet ceinc i mapinogi am mal i teithwys pryteri i annwuyn…
Agorais fy llygaid a chael fy hun ar lawr yr ystafell ddarllen. Roedd fy ngheg i’n sych fel papur. Roedd cur yn fy mhen. Lewygais i? Atseiniodd y geiriau arswydus amhosib hynny drwy 'mhen: ‘...pumed cainc...am fel y teithiodd Pryderi i Annwfn...’ Edrychais am y llyfr glas, fy nghalon yn dyrnu, ond doedd o ddim ar y ddesg. Wedi chwilio’n hir, cefais ei fod o’n ôl ar ei silff…
Mae fy mreuddwydion nosweithiol bellach yn llawn o Bryderi: y brenin a deithiodd wedi angau i ddyfnderoedd yr arallfyd i ymladd Hafgan a’i gleddyf hud – ond sut y gwn i hynny? Nid oes cof gen i o ddarllen y tudalennau bregus, ac eto mi wn i’r bumed cainc bob gair, fel petaen nhw ’ngeiriau i. Ac mae rhyw ysfa ynof – ysfa i rannu’r chwedl, ac ar yr un pryd mae rhybudd dudew yn corddi yn fy enaid na ddylwn i ei rhannu.
Mae hwn yn rhy hen, meddai’r archifydd, ac yn wir: mae hen gysgodion angof yn fy amgylchynu bob nos, yn fy nwyn i Gaer Siddi lle mae’r duwiau gynt yn gwatwar ffŵl ifanc sydd wedi tresbasu arnynt.